Adborth

Mae Prifysgol De Cymru yn casglu adborth gan fyfyrwyr mewn sawl ffordd wahanol ac yn ei ddefnyddio i wella a chyfoethogi ansawdd yr addysgu a'r dysgu a phrofiad cyffredinol myfyrwyr.

Ffyrdd o roi adborth

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr

Mae'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn arolwg blynyddol sy'n casglu barn myfyrwyr israddedig y DU sydd ar eu blwyddyn olaf am eu hamser mewn addysg uwch.  Mae’n gyfle i fyfyrwyr roi adborth ar yr hyn roeddent yn ei hoffi am eu hamser yn y Brifysgol yn ogystal â'r hyn y teimlent y gellid bod wedi’i wella

Undeb y Myfyrwyr

Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn gweithio i wella'r cwrs y cânt eu hethol i'w gynrychioli, tra bod Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr  yn rhoi sylw i faterion ehangach, gan weithredu ar lefel y Gyfadran. Mae'r ddau yn gweithredu fel llais i fyfyrwyr i'r Brifysgol, gan siarad yn uniongyrchol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a helpu i lunio polisïau yn y dyfodol.

Gallwch hefyd roi adborth trwy gyfeiriad e-bost UniLife: [email protected]