Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol

Mae yna nifer o apiau symudol wedi'u cymeradwyo gan PDC i'ch helpu tra yn y brifysgol. Mae'r rhain i gyd ar gael ar gyfer iOS ac Android.

Blackboard Learn

Datrysiad symudol Blackboard. Ap sy'n eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth yn eich cwrs. iPhoneiPadAndroid.

Ap SafeZone

Mae SafeZone yn rhoi mynediad i chi ar unwaith i ddiogelwch ar y campws a thîm o ymatebwyr cyntaf trwy eich ffôn symudol.  Gallwch hefyd gael help yn gyflym mewn argyfwng personol, neu os oes angen cymorth cyntaf neu gymorth cyffredinol ar rywun.


Troi PDC yn Wyrdd

Mae Troi PDC yn Wyrdd yn ap ar y we sy'n eich gwobrwyo â "Phwyntiau Gwyrdd" am gamau amgylcheddol cadarnhaol sy'n eich helpu i fyw bywyd mwy cynaliadwy a helpu PDC i gyrraedd ei tharged carbon niwtral erbyn 2040.  

Ap Parcio Trust (Glide yn flaenorol)

Mae Trust yn system seiliedig ar Ap i dalu am barcio ym maes parcio Trefforest Llantwit Road, a meysydd parcio uchaf ac isaf Glyn-taf.