Cyflwyno Gwaith Cwrs

Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg o sut i gyflwyno gwaith cwrs. Am fwy o wybodaeth benodol, gweler tudalennau eich cwrs ar Blackboard.

Bydd eich tiwtor modiwl yn darparu brîff ffurfiol a ddylai fod wedi’i leoli ar Blackboard.

Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno'r darn cywir o waith, gan ddefnyddio'r dull cyflwyno cywir, cyn y dyddiad cau.

Gwiriwch ddyddiad ac amser cyflwyno'r dyddiad cau gyda'ch tiwtor modiwl neu ar Blackboard.

Fel arfer, rhaid cyflwyno gwaith cwrs erbyn 4.00pm (cyflwyno copi caled) neu 11.59pm (cyflwyno ar-lein) ar y dyddiad cau.

Gallwch gyflwyno gwaith cwrs yn gynnar os yw hyn yn helpu gyda'ch rheolaeth amser.

Eich Cyfrifoldebau

  • Cyflwynwch yn y fformat a nodir yn y brîff neu gallech dderbyn marc sero.
  • Labelwch eich gwaith yn glir yn unol â'r cyfarwyddiadau yn y brîff asesu.
  • Cadwch gopi o unrhyw dderbynneb a gyhoeddir ar ôl ei gyflwyno oherwydd efallai y bydd angen i chi ei gyflwyno yn ddiweddarach.
  • Peidiwch ag anfon eich asesiad terfynol yn uniongyrchol at diwtor y modiwl. Nid yw hwn yn ddull cymeradwy o gyflwyno.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn ansicr o unrhyw gyfarwyddiadau cysylltwch â'ch tiwtor modiwl.

Cyflwyniadau Ar-lein

Mae'r holl gyflwyniadau gwaith cwrs ar-lein yn cael eu gwneud trwy Blackboard. O fewn Blackboard mae dau brif offeryn cyflwyno aseiniad:

Aseiniad Blackboard

Dyma offeryn aseiniad adeiledig Blackboard. Pan fyddwch yn cyflwyno, byddwch yn derbyn rhif cadarnhad cyflwyniad, a gallwch lawrlwytho derbynneb. Byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad e-bost i'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr PDC.

Aseiniadau Turnitin

Offeryn trydydd parti yw hwn sy'n cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol y tu mewn i Blackboard. Nid ydych yn mynd y tu allan i Blackboard i gyflwyno Aseiniadau Turnitin. Byddwch yn gallu lawrlwytho derbynneb ddigidol ar ôl i chi gyflwyno.

Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi ffitrwydd i sefyll sy'n golygu eich bod, drwy gyflwyno gwaith cwrs, eich bod yn datgan eich bod yn ffit i wneud hynny. Ni allwch hawlio wedyn nad oeddech yn holliach oherwydd amgylchiadau neu salwch sy'n effeithio ar eich perfformiad.

Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi llym ar gyflwyniadau hwyr, gweler adran "Cyflwyno gwaith cwrs yn hwyr" o'r Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a a Addysgir, felly dylech bob amser gyflwyno eich asesiad erbyn y dyddiad/amser cau. 

Os byddwch yn cyflwyno ar ôl yr amser a ddyrannwyd ar y dyddiad cau, bydd hyn yn cael ei ystyried yn gyflwyniad hwyr a bydd yn effeithio ar eich gradd.

Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno aseiniadau yn Gymraeg p'un ai ydyn nhw'n astudio ar gwrs cyfrwng Cymraeg ai peidio.

Anogir myfyrwyr sy’n dymuno cyflwyno asesiad gwaith cwrs neu arholiad* (noder: mae hyn yn ddibynnol ar y corff arholi) yn Gymraeg i gysylltu â'r darlithydd cyn gynted ag y bo modd er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol. Mae’n rhaid i fyfyrwyr hysbysu eu darlithydd dim hwyrach na 3 wythnos cyn dyddiad cau'r aseiniad.

Bydd y Brifysgol yn chwilio am ddarlithydd perthnasol a fydd yn medru marcio ac asesu’r gwaith neu’n trefnu cyfieithu’r gwaith i’r Saesneg.

Ceir mwy o wybodaeth fan hyn: Gweithdrefnau Cyflwyno Gwaith yn Gymraeg

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud copi wrth gefn o’ch asesiadau yn rheolaidd wrth i chi weithio. Mae hynny'n cynnwys brîff y gwaith cwrs, eich nodiadau, deunyddiau ymchwil a drafftiau a'r fersiwn gorffenedig o'r gwaith yr ydych yn ei gyflwyno.

Cadwch gopïau ohonynt mewn o leiaf ddau leoliad ar wahân. Er enghraifft:

  • Ar yriant mewnol eich cyfrifiadur
  • Ar yriant allanol neu ffon gof wedi'i storio mewn lleoliad ffisegol ar wahân
  • Ar Microsoft One Drive, Google Drive neu Dropbox

Cadwch gopïau wrth gefn hyd yn oed ar ôl cyflwyno rhag ofn y bydd gofyn i chi eu darparu i’r Brifysgol am unrhyw reswm, megis i’ch helpu i werthuso eich cynnydd dros amser, ac er eich gwybodaeth eich hun, er enghraifft wrth adolygu.