Innovation Hub banner CYM V2

Canolfan Arloesi PDC

Beth yw'r Ganolfan Arloesi?

Mae’r Ganolfan Arloesi yn gyfuniad o staff a myfyrwyr ar draws sawl maes pwnc sy’n cynnig cyrsiau bach, cymorth a chyngor, cysylltiadau a phrosiectau diwydiannol, cystadlaethau, a’r cyfle i greu eich syniadau eich hun.

Rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau sy'n cynnig cyfleoedd i wneud cysylltiadau, i ddysgu mwy am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig ac i gael profiadau ymarferol.

Mae gennym ni offer o'r radd flaenaf i'ch galluogi i greu prosiectau, gan gynnwys argraffu 3D cyflym, torri â laser a sodro.

Mae'r gweithgareddau yn y Canolfan Arloesi yn agored i bob myfyriwr a phob aelod o staff (oni nodir yn wahanol).

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Gyda'r nifer o gyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig yn y Ganolfan Arloesi, gallwch chi:

  • Ddysgu sgil newydd
  • Gwella eich gwybodaeth
  • Gwneud ffrindiau
  • Cwrdd â thimau ar draws PDC sydd eisiau eich helpu chi a'ch gyrfa yn y dyfodol
  • Creu cysylltiadau â diwydiant
  • Creu rhywbeth sydd ei angen arnoch
  • Trwsio rhywbeth sydd wedi torri
  • Gwella eich CV

A allaf ddylunio ac adeiladu fy syniad?

Gwahoddir yr holl staff a myfyrwyr i ddefnyddio'r Ganolfan Arloesi i wireddu eu syniadau.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni sicrhau bod pawb yn ddiogel wrth ddefnyddio'r offer. Felly, cyn y gallwch ddefnyddio'r Ganolfan Arloesi yn ystod yr 'Oriau Agor' rhaid i chi gwblhau cynllun pasbort y Ganolfan Arloesi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Blackboard.

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Gall myfyrwyr PDC (a staff) ymuno â chwrs Canolfan Arloesi ar Blackboard i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau, grwpiau a chlybiau, oriau agor a chyfleoedd gwirfoddoli.

Os nad oes gennych chi fynediad at dudalennau Blackboard eto, siaradwch ag arweinydd eich cwrs/pennaeth pwnc neu anfonwch e-bost at [email protected].