pexels-artem-podrez-6941442-WIDE-header

Plant a Bywyd Prifysgol

Ni ddylai cael plant, ynddo’i hun, atal rhywun rhag llwyddo yn ei astudiaethau academaidd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i fod mor hyblyg ag y gall i sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr dan anfantais oherwydd beichiogrwydd, mamolaeth neu dadolaeth (gan gynnwys mabwysiadu), wrth sicrhau nad yw safonau academaidd yn cael eu peryglu.

Sylwch:

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio plentyn fel “person o dan 18 oed” a dyma’r diffiniad y mae Prifysgol De Cymru yn ei ddilyn.