Cwestiynau Cyffredin am blant a bywyd prifysgol.
Caniateir plant ar y campws ond rhaid iddynt fod o dan oruchwyliaeth rhiant neu warcheidwad bob amser.
Mae lleoliadau ar y campws sydd wedi'u cyfyngu i blant.
Ni chaniateir i blant fod mewn sesiynau addysgu, ac eithrio lle mae gofynion ar gyfer bwydo plentyn ifanc ar y fron.
Na all, ni ddylai plant fod yn mynychu sesiynau addysgu. Mae hyn oherwydd y gallant achosi amhariad i fyfyrwyr eraill ac efallai na fydd cynnwys yr addysgu yn briodol iddynt.
Mae rhywfaint o ofal plant ar gael ar y campws ac yn agos ato, gwelwch ein tudalen gofal plant.
Caniateir i blant ymweld â’r llyfrgell os ydynt yn mynd gyda myfyriwr sy’n oedolyn neu aelod o staff PDC. Mae'n rhaid i blant gael eu goruchwylio bob amser ac mae’r oedolyn sydd gyda nhw yn gyfrifol amdanynt. Disgwylir i bob ymwelydd â’r llyfrgell, gan gynnwys plant, ddilyn canllawiau’r llyfrgell ar Ymddygiad Ystyriol. Ni ddylid caniatáu i blant ymddwyn mewn unrhyw ffordd a allai darfu neu achosi anghyfleustra i ddefnyddwyr eraill y llyfrgell.
Os ydych yn ymweld â’r llyfrgell gyda mwy nag un plentyn, rhaid i chi gymryd camau i sicrhau y gallwch reoli eu hymddygiad a darparu goruchwyliaeth ddigonol bob amser.
Byddem yn eich annog i beidio â threulio cyfnodau estynedig o amser yn gweithio mewn ardaloedd astudio llyfrgell os oes plant gyda chi. Mae ein llyfrgelloedd yn amgylcheddau oedolion sydd wedi'u llunio at ddibenion academaidd ac nid ydynt yn lleoedd addas i blant ifanc. Os nad oes modd ei osgoi, rhaid i chi ddefnyddio mannau a ddyluniwyd ar gyfer astudiaeth gymdeithasol/grŵp. Ni chaniateir i blant fynd i mewn i ystafelloedd astudio tawel na phodiau astudio y gellir eu harchebu. Gwnewch yn siŵr bod plant yn brysur gyda gweithgareddau tawel os ydynt yn treulio cyfnodau estynedig o amser yn y llyfrgell.
Ni ddylech ddod â phlant gyda chi pan fyddwch yn mynychu sesiynau anwytho, teithiau, gweithdai neu ddigwyddiadau eraill yn y llyfrgell. Yr eithriad yw pan fernir bod angen hynny oherwydd eich bod yn bwydo ar y fron (yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw i Fyfyrwyr ar Feichiogrwydd . Yn yr achosion hyn, dylid hysbysu staff y llyfrgell sy'n trefnu'r digwyddiad ymlaen llaw y bydd baban yn bresennol.
Os ydych chi'n profi ymrwymiad teuluol annisgwyl y tu allan i'ch rheolaeth - fel anawsterau gyda gofal plant pan fydd gofyn i chi fynychu asesiad. Gallwch hawlio amgylchiadau esgusodol. Gallai tystiolaeth ar gyfer eich cais fod yn llythyr gan gorff annibynnol priodol, megis darparwr gofal plant/ysgol/cyflogwr/ymarferydd meddygol yn rhoi gwybod am y sefyllfa.
Na allwch, yn gyffredinol mae llety preswyl yn y Brifysgol wedi'i fwriadu at ddefnydd oedolion yn unig, sy'n golygu rhai 18 oed a hŷn. Nid yw'n amgylchedd addas i blant fod yn byw ynddo nac yn ymweld ag ef.
Nid oes unrhyw gyfleusterau penodol ar gyfer plant ar y campws.
Mae rhywfaint o ofal plant ar gael ar y campws ac yn agos ato, gwelwch ein tudalen gofal plant.
Caniateir plant ar y campws ond rhaid iddynt fod o dan oruchwyliaeth rhiant neu warcheidwad bob amser. Gall eich plant fynd gyda chi yn y lleoliadau lletygarwch ar draws y campysau ond peidiwch â'u gadael ar eu pennau eu hunain oherwydd gall yr ardaloedd ddod yn brysur.
Mae lleoliadau ar y campws sydd wedi'u cyfyngu i blant.
Ni chaniateir i blant fod mewn sesiynau addysgu, ac eithrio lle mae gofynion ar gyfer bwydo plentyn ifanc ar y fron.
Mae rhywfaint o ofal plant ar gael ar y campws ac yn agos ato, gwelwch ein tudalen gofal plant.
Nid yw Prifysgol De Cymru yn darparu llety i deuluoedd.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol bod galw mawr iawn am lety yn y sector preifat yn yr ardal y mae’r Brifysgol ynddi, ac yn y DU yn gyffredinol, ac mae costau wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae costau rhentu tŷ misol yn dechrau o £800 y mis ym Mhontypridd a Chasnewydd, a gall tŷ 2/3 ystafell wely gostio cymaint â £1,475 y mis yng Nghaerdydd. Mae myfyrwyr, yn enwedig y rhai sydd â dibynyddion a theuluoedd, yn ei chael yn fwyfwy anodd sicrhau llety addas yn ardal uniongyrchol y Brifysgol.
Gofynnwn felly i chi ddod i’r DU ar eich pen eich hun i ddechrau, hyd nes y byddwch wedi sicrhau llety i’ch teulu. Gall eich teulu ymuno â chi unwaith y byddwch wedi dod o hyd i rywle addas i fyw.
Gall Tîm Llety PDC anfon manylion o asiantau tai lleol atoch, ond rydym yn eich cynghori i chwilio am lety a’i sicrhau trwy eich modd eich hun cyn gynted â phosibl. Sylwch fod gan y Brifysgol hefyd drefniant gyda chwmni gwarantu llety. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected].