Plant ar y Campws

A ganiateir plant ar y campws?

Yn gyffredinol, caniateir plant ar gampysau’r Brifysgol, ar yr amod eu bod dan oruchwyliaeth a rheolaeth rhiant/gwarcheidwad/oedolyn sy’n dod gyda nhw. Fodd bynnag, mae rhai lleoedd a rhai sefyllfaoedd lle na chaniateir plant.

Ni chaniateir i blant fod mewn mannau a sesiynau addysgu. Yr eithriad yw pan fernir bod angen hynny oherwydd bod myfyriwr neu gydweithiwr yn bwydo ar y fron (yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010). Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i dudalen Beichiogrwydd, Mamolaeth, Tadolaeth/Partneriaid a Mabwysiadu.