Llythyrau’r Dreth Gyngor

  • System o drethiant lleol a gesglir gan awdurdodau lleol yw'r dreth gyngor.
  • Gall tystysgrif myfyriwr y dreth gyngor ("Llythyr y Dreth Gyngor") helpu i brofi nad oes rhaid i chi dalu'r dreth gyngor (os yn gymwys).
  • Dylech wneud cais am lythyr y Dreth Gyngor newydd bob blwyddyn academaidd.
  • Bydd Llythyrau’r Dreth Gyngor ar gyfer pob sesiwn academaidd ar gael o ddyddiad cychwyn eich cwrs.

Sut i wneud cais am Dystysgrif Myfyrwyr y Dreth Gyngor

Ar hafan UniLife, dewiswch y botwm ‘Llythyrau Myfyrwyr’. Os ydych yn gymwys i dderbyn llythyr, yna dylech gael yr opsiwn i ddewis ‘Gofyn am Dystysgrif Treth y Cyngor’.

Sylwch, mae ychydig o oedi rhwng gofyn am y llythyr a'i dderbyn yn eich cyfrif e-bost.

Noder: Os ydych chi'n ceisio agor y ddogfen yn eich porwr gwe a'i fod yn gofyn am gyfrinair, yna llawrlwythwch y ddogfen a'i hagor o fwrdd gwaith eich cyfrifiadur.

Mae llythyrau ar gael ar-lein yn ystod y flwyddyn addysgu (h.y. nid yn ystod yr egwyl rhwng blynyddoedd academaidd). I fod yn gymwys i gael eich Eithrio o’r Dreth Gyngor:

  • Rhaid i chi fod wedi cofrestru
  • Rhaid i'ch cwrs fod yn gwrs amser llawn


Os nad ydych yn fyfyriwr amser llawn ond eich bod yn meddwl eich bod yn gymwys i gael eich eithrio o'r Dreth Gyngor, Ardal Gynghori Ar-lein.

Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad yn ystod y tymor yn gyfredol yn ein cofnodion myfyrwyr cyn i chi ofyn am Lythyr y Dreth Gyngor.

Os nad yw’r teclyn ar-lein yn cynhyrchu'r wybodaeth bresennol am y sesiwn academaidd ar ôl i bythefnos fod wedi mynd heibio ers dechrau'r addysgu, Ardal Gynghori Ar-lein.

Os oes angen tystysgrif myfyriwr y dreth gyngor hanesyddol, cysylltwch â [email protected].

Os yw eiddo yn cael ei feddiannu gan gymysgedd o fyfyrwyr amser llawn, rhan-amser a rhai nad ydynt yn fyfyrwyr, nid yw'r eiddo yn eithriedig.  (Gall disgowntiau neu ostyngiadau’r dreth gyngor fod yn gymwys, yn dibynnu ar amgylchiadau'r preswylwyr nad ydynt yn fyfyrwyr).

Nid oes unrhyw dreth gyngor yn daladwy fel arfer mewn:

  • Neuaddau preswyl prifysgolion
  • Tŷ neu fflat a rennir lle mae'r holl breswylwyr yn fyfyrwyr amser llawn ac mae pob un yn talu rhent ar wahân
  • 'granny flat' hunangynhwysol lle mae'r person sy'n byw ynddo yn berthynas dibynnol i berchennog y prif eiddo.

Os ydych wedi'ch eithrio rhag y dreth gyngor ond nad yw eich cyd-letywyr yn y tŷ wedi'u heithrio, yna fel arfer nid oes angen i chi dalu unrhyw gyfran tuag at fil y dreth gyngor.

Nid yw myfyrwyr sydd wedi eu heithrio yn “atebol ar y cyd ac yn unigol” am y dreth gyngor fel y maent ar gyfer rhai biliau eraill.  Fodd bynnag, mae'r sefyllfa’n wahanol os oes gennych ddiddordeb 'uwch' yn yr eiddo, e.e. os mai chi yw'r perchennog.

Os anfonir bil y Dreth Gyngor atoch, peidiwch â'i anwybyddu hyd yn oed os ydych wedi'ch eithrio.  Mae gan yr awdurdod lleol bwerau helaeth i orfodi taliadau a gellir codi gorchymyn llys yn eich erbyn am beidio â thalu.

Bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdod perthnasol (manylion ar y bil) i sicrhau bod adran y Dreth Gyngor wedi cymhwyso'r eithriadau i fyfyrwyr ar gyfer y dyddiadau cywir a bod yr holl feddianwyr mewn llety a rennir wedi darparu Tystysgrifau Myfyrwyr y Dreth Gyngor.

Mae'r rheolau asesu ynghylch eithrio myfyrwyr nad ydynt wedi'u cofrestru fel myfyrwyr amser llawn yn gymhleth.  Cynghorir myfyrwyr sydd wedi cofrestru'n rhan-amser i gysylltu â'r Tîm Cofnodion Myfyrwyr i drafod eu hamgylchiadau personol os credant y gallant gael eu heithrio o'r Dreth Gyngor.

Os nad ydych wedi'ch eithrio rhag y Dreth Gyngor, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad yn y Dreth Gyngor neu Ddisgownt y Dreth Gyngor, yn dibynnu ar eich sefyllfa, ac yn dibynnu ar y meini prawf a ddefnyddir gan eich awdurdod lleol.  Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am fwy o wybodaeth.

Bydd eithriad y Dreth Gyngor yn dod i ben pan fyddwch yn peidio â bod yn fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs amser llawn.

Cysylltiadau

Os oes gennych gwestiwn am y Dreth Gyngor, cysylltwch â...