Llawlyfrau Cwrs

Mae'n ofynnol i arweinwyr eich cwrs ddarparu gwybodaeth gywir a pherthnasol am eich cwrs. Mae'r safon ofynnol y cytunwyd arni yn cynnwys llawlyfr y cwrs.

Mae eich llawlyfr yn rhoi gwybodaeth allweddol am eich cwrs:

  • cyflwyniad i'r staff ar dîm eich cwrs a sut i gysylltu â nhw
  • nodau, canlyniadau, a chynnwys eich cwrs
  • sut a lle bydd eich cwrs yn cael ei addysgu
  • sut mae'r cwrs yn cael ei asesu
  • pryd a sut i gyflwyno gwaith wedi'i asesu
  • manylion ynglŷn ag amgylchiadau esgusodol
  • sut bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro
  • sut i gynnig adborth ar eich cwrs
  • y sgiliau cyflogadwyedd y byddwch yn eu cael o'ch cwrs
  • deunyddiau ac offer gofynnol neu sydd ar gael
  • amserlenni

Gellir dod o hyd i'r Llawlyfr o dan 'My Organisations’ yn Blackboard (UniLearn).  Dewiswch enw eich cwrs a bydd y llawlyfr yn cael ei restru yn y ddewislen ar yr ochr chwith.

Os ydych chi'n defnyddio'r ap Blackboard bydd angen i chi ddewis 'My Orhganisations’, ac yna enw'ch cwrs ac yna 'Organisation Content'.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'ch llawlyfr cwrs, cysylltwch ag arweinydd eich cwrs.