Dymuna'r Brifysgol roi'r cyfle gorau posibl i bob myfyriwr gyflawni ei botensial academaidd, ac felly bydd yn ymdrechu i fod mor hyblyg ag sy'n ymarferol bosibl wrth letya dymuniadau myfyrwyr o ran ufuddhau i gredoau crefyddol.
Dylai myfyrwyr sy'n credu y gallai fod gan eu system crefydd neu gredo eu hunain oblygiadau o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau arferol myfyrwyr – fel darlithoedd, arholiadau neu ddosbarthiadau ymarferol – godi materion posibl gyda'u tiwtoriaid cwrs cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol yn ystod sesiynau cynefino eu cyrsiau.
Mae gan y Brifysgol ddogfen sy'n cynnwys Canllaw ar Grefydd a Chred i Fyfyrwyr. Dylai myfyrwyr hefyd fod yn ymwybodol o'r canllawiau a ddilynir gan staff: ganlyn: Canllaw ar Grefydd a Chred i Staff.
Mae'r Gaplaniaeth i’r Brifysgol yn agored a chynhwysol ac yn parchu ffydd pawb, a meddwl ac archwiliad rhai nad ydynt wedi ymrwymo i unrhyw ffydd. Un o nodau'r gaplaniaeth yw cynorthwyo pobl o bob ffydd i gael gafael ar gymorth priodol yn yr arfer o'u ffydd. Mae'r caplaniaid yn hapus i siarad ag unrhyw fyfyriwr sy'n pryderu am sut y gallai eu hymarfer personol o grefydd neu gred effeithio ar eu profiad fel myfyriwr: cysylltwch â’r gaplaniaeth.