Eich Dysgu a’ch Lles

Dysgu gweithredol a lles

Byddwch yn clywed llawer am ddysgu gweithredol ym Mhrifysgol De Cymru. Gall ymddangos yn frawychus os nad ydych chi'n gwybod beth ydyw. Yr hyn mae’n ei olygu yw, ochr yn ochr â darlithoedd traddodiadol, y byddwch chi’n gwneud y math o ddysgu sy’n caniatáu i chi brofi syniadau a dysgu. Mae llawer o fathau o dasgau dysgu gweithredol y gallech eu gwneud ar eich cwrs. Dyma’r rhai cyffredin:

  • Dod o hyd i'ch adnoddau a’ch testun darllen eich hunan, 
  • Cyfrannu at drafodaethau am wahanol bynciau,  
  • Gweithio trwy broblemau neu astudiaethau achos, 
  • Creu a rhoi cyflwyniadau llafar, a  
  • Gweithgareddau seiliedig ar waith, fel cymryd rhan mewn gweithgaredd efelychiadol neu fynd ar leoliad.  
Student smiling as they point something out on an x-ray

Mae dysgu gweithredol yn gallu bod yn heriol, ond dylai eich herio mewn ffordd dda, gan eich ymestyn ddigon. Ceisiwch gymryd rhan mor llawn ag y gallwch a chofiwch fod mynd ati i gyflawni her a chael dealltwriaeth ystyrlon yn hybu lles. Mae cymryd agwedd ddyfnach fel hyn yn gysylltiedig â theimlo'n hapus. Mae'n teimlo'n dda pan fyddwch chi'n cyflawni rhywbeth ac yn sylweddoli faint rydych chi'n ei wybod yn barod.   

Ar yr un pryd, byddwch yn garedig â chi'ch hunan os na allwch chi gymryd rhan o dro i dro oherwydd rhwystrau, profiadau bywyd, amgylchiadau, ac ati. Os ydych yn teimlo y gallai tasg dysgu gweithredol achosi anhawster i chi, cofiwch y gallwch ofyn i staff ar eich cwrs ystyried hyn a rhoi rhybudd ymlaen llaw i bawb am rai pethau. Nid yw’n afresymol gwneud cais am wybodaeth ymlaen llaw am dasgau sy’n gofyn am ymdrech gorfforol neu lawer o ryngweithio cymdeithasol, neu os byddant yn cynnwys synau uchel, goleuadau’n fflachio, arogleuon cryf, a bwyd neu ddiod. 

Gofalu am eich lles wrth ddysgu 

Er mwyn cefnogi cyfranogiad llawn mewn dysgu, mae’n ddefnyddiol meddwl am rai pethau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a sut gallwch ofalu am eich lles. Mae rhai pethau i'w harchwilio i’w gweld isod. Efallai y byddwch chi'n teimlo nad yw rhai ohonyn nhw’n berthnasol i chi ac yn cael eich temtio i'w hepgor. Darllenwch nhw beth bynnag. Rydych chi'n rhan o gymuned ym Mhrifysgol De Cymru a dylech geisio dysgu ychydig am eich gilydd a bod yn ymwybodol o rai o'r problemau y gallai pobl fod yn dygymod â nhw. 

Mae arwahanrwydd cymdeithasol yn anodd oherwydd mae angen ein gilydd arnon ni i oroesi, er mae’n gallu teimlo'n anodd iawn ymgysylltu â phobl eraill ar adegau. Yn eich astudiaethau, rydych chi'n dysgu gyda phobl eraill a chanddyn nhw. Ceisiwch gymryd rhan yn gymdeithasol ar eich cwrs gymaint ag y teimlwch y gallwch. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw’n anodd i chi gymdeithasu mewn ffyrdd eraill yn y brifysgol oherwydd pethau fel cyfrifoldebau eraill, gwaith rhan amser, neu rwystrau eraill.   

Gall arwahanrwydd cymdeithasol fod yn arbennig o anodd os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol gan y gallech fod yn bellach i ffwrdd oddi wrth eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned. Gwyliwch y fideo isod. Mae David Pye o Undeb Myfyrwyr PDC yn siarad am ei brofiadau personol o fod yn fyfyriwr rhyngwladol, byw ac astudio oddi cartref, ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae capsiynau ar y fideo yng Gymraeg.  

Fel mae David yn ei ddweud yn y fideo, dylech ofyn am gymorth os oes ei angen arnoch. Os oes angen cymorth arnoch, edrychwch ar y wybodaeth am ble i fynd i gael cymorth i weld beth sydd ar gael. 

Wrth i ni ddysgu, rydyn ni’n gwneud camgymeriadau, a gall wneud i ni deimlo'n fregus. Mae dysgu gweithredol yn ein galluogi i roi cynnig ar bethau ac efallai na fydd bob amser yn arwain at y canlyniadau disgwyliedig. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i ddysgu, gan gynnwys dysgu am ein hunain. Mae hefyd yn gallu newid ein safbwynt am ffyrdd o fynd i'r afael â thasgau dysgu, yn ogystal ag am y byd yn ehangach. Mae'n helpu i ffurfio perthynas dda gyda phobl ar eich cwrs, cefnogi eich gilydd a helpu eich gilydd pan fyddwch yn gwneud camgymeriadau. Mae’n dda bod yn sensitif ac yn adeiladol pan fyddwch chi’n tynnu sylw at gamgymeriad rhywun arall hefyd. 

Silver stopwatch on a blue background

Ceisiwch rannu eich llwyth gwaith dros amser a rhoi seibiannau i chi'ch hunan i wneud pethau fel treulio amser gyda ffrindiau neu deulu, yn enwedig yn ystod cyfnodau asesu. Gallech gyfnewid syniadau ar eich cwrs am reoli amser a therfynau amser. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i chi drefnu sesiynau astudio grŵp i’ch helpu i gadw ar y trywydd cywir gyda therfynau amser. Os oes gennych lawer o asesiadau i’w cwblhau yn yr un cyfnod, rhowch adborth am hynny wrth werthuso eich cyrsiau a’ch modiwlau a thrwy eich cynrychiolwyr Cwrs a Llais y Myfyrwyr.

Gall y teimladau hyn ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod eich amser ym Mhrifysgol De Cymru. Maen nhw’n aml yn cysylltu â ffyrdd y gallech fod yn teimlo'n wahanol i fyfyrwyr eraill. Er enghraifft, efallai y byddwch yn teimlo hyn os mai chi yw’r cyntaf yn eich teulu i fod yn mynd i’r brifysgol ac wedi cael llai o gyfle i ddod i ddeall y ‘normau’ a’r ‘codau’ cudd yn y brifysgol. Efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn perthyn i brifysgol. Gall wneud i chi deimlo bod gennych lai i'w gyfrannu a’i bod yn anoddach siarad. Ceisiwch gyfrannu at y dysgu a'r Brifysgol ehangach gymaint ag y gallwch. Gall hynny eich helpu i ddysgu rhywfaint o'r cod cudd fel y gallwch ei ddefnyddio'n strategol. Mae llawer o bobl amrywiol ym Mhrifysgol De Cymru, o wahanol oedrannau, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, anableddau, rhywedd, rhywioldeb, crefyddau, maint corff, ac yn y blaen, ac rydych chi yma oherwydd bod gennych chi lawer i'w gynnig. Gallwch wneud cyfraniadau sy'n ystyrlon i chi. Gallwch gysylltu â phobl sydd â gwahanol brofiadau, safbwyntiau a chymunedau. Mae'n debygol y byddwch yn gallu cynnig dealltwriaeth ddyfnach o ba mor gyd-ddibynnol ydyn ni fel bodau dynol hefyd.

Several hands on top of each other

Weithiau byddwch chi'n gwneud gweithgareddau mewn timau. Gall hyn deimlo'n frawychus, ond ceisiwch feddwl am gydweithio fel cyfle i helpu'ch gilydd a meithrin perthnasoedd a chyfeillgarwch da. Treuliwch amser yn dysgu am eich cyfoedion, a pheidiwch â rhoi pwysau ar neb i rannu dim byd nad ydyn nhw eisiau ei wneud. Cofiwch fod gan bobl wahanol arddulliau cyfathrebu. Wrth ymateb i rywun, yn enwedig wrth roi adborth ar waith llafar, ddylech chi ddim canolbwyntio ar arddull iaith, ynganiad, iaith y corff, na thôn y llais. Rhowch adborth ar sail y gwaith, nid yr unigolyn. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol canolbwyntio ar yr hyn nad oeddech chi’n ei ddeall neu os oes manylion ar goll. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol cael cytundeb fel tîm sy'n cynllunio pwy sy'n cyflawni pa rolau a phwy sy'n gwneud pa waith a phryd.

Os oes gennych hanes o drawma oherwydd profiadau straenus, brawychus, aflonyddus neu ofidus iawn, weithiau gall y ffordd y gofynnir i chi gymryd rhan mewn tasgau dysgu greu problemau. Cofiwch nad oes angen i chi rannu dim byd personol amdanoch chi'ch hunan, y gallwch adael yr ystafell os oes angen, ac efallai y byddwch weithiau'n gallu optio allan yn gyfan gwbl o weithgareddau sy'n achosi trallod i chi. Cofiwch y gallwch ofyn am gymorth os oes ei angen arnoch, er enghraifft, drwy'r Gwasanaeth Lles. Mae'r adran isod yn cynnwys gwybodaeth am ble i fynd os oes angen cymorth arnoch.

Ble i fynd os oes angen cymorth gyda lles arnoch chi wrth ddysgu 

Mae llawer o gymorth i gefnogi eich lles wrth ddysgu ar gael ym Mhrifysgol De Cymru. Dyma awgrymiadau i'ch helpu i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch. Gallwch hefyd bori drwy’r A-Y i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol neu gysylltu â’r Ardal Gynghori os nad ydych yn siŵr ble i fynd am gymorth. Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig cymorth iechyd meddwl a chwnsela ac mae ganddi bolisi ‘Urddas wrth Astudio’ ar gyfer materion sy’n ymwneud â bwlio ac aflonyddu ym Mhrifysgol De Cymru.

Weithiau bydd problemau penodol yn codi sy’n ymwneud â dysgu a'ch cwrs a allai fod ond yn berthnasol i chi fel myfyriwr rhyngwladol. Efallai y bydd y cymorth canlynol yn ddefnyddiol i chi.  

  • Bydd y gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio yn cynnal gweithdai yn ystod y flwyddyn academaidd a ddylai fod yn arbennig o ddefnyddiol i chi. Er enghraifft, gweithdai ar archwilio a thrafod astudio mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig a dadansoddi'r syniad o hygrededd academaidd. Mae manylion am y rhain i’w gweld yn yr adran Gweithdai ar y wefan Sgiliau Astudio.  

  • Gall sgiliau iaith fod yn bryder weithiau yn y brifysgol os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf. Mae’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a chymorth sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i wella’ch sgiliau iaith, cyn dechrau ac yn ystod eich astudiaethau. Mae'r athrawon yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar ac yn croesawu unrhyw fyfyriwr sy'n pryderu am lefel eu hiaith neu'n gweld ei bod yn eu hatal rhag dysgu'n effeithiol. Mae modd cysylltu â nhw yn [email protected]

  • Gall y tîm Cyngor Mewnfudo a Myfyrwyr Rhyngwladol ddarparu cyngor ar lawer o bethau sy'n benodol i'ch sefyllfa. Er enghraifft, os oes gennych unrhyw bryderon am fisas a lleoliad gwaith, gallan nhw gynnig cyngor i chi.

Gall y Gwasanaeth Anabledd ddarparu cyngor a chymorth ar gyfer eich astudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru. Gall ymgynghorwyr weithio gyda chi i ddod o hyd i ddatrysiadau i'ch helpu chi'n bersonol. Gwyliwch y fideo isod. Mae Jamie Edwards, sy’n aelod o staff, yn siarad am bwysau bywyd prifysgol i fyfyrwyr anabl a sut gall y gwasanaeth helpu i gefnogi eich lles. Mae capsiynau ar y fideo. 

Er mwyn cael syniad o’r cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaeth Anabledd, gwyliwch y fideo isod. Mae Kyle Eldridge, sy’n fyfyriwr awtistig/anabl, yn siarad am ei brofiadau personol o gael cymorth gan y tîm Ymgynghorwyr Cymorth Anabledd ym Mhrifysgol De Cymru. Mae capsiynau ar y fideo yng Gymraeg. 

Gall gwaith academaidd yn y brifysgol fod yn dra gwahanol i waith academaidd rydych wedi'i wneud yn rhywle arall, yn enwedig o ran gwaith asesu. Gall asesu fod yn broses emosiynol iawn hefyd. Gall deimlo fel eich bod yn cyflwyno nid yn unig eich gwaith, ond chi eich hunan, i gael craffu arnoch chi hefyd. Mae’r gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio yn cynnig gweithdai grŵp a sesiynau tiwtor un i un sy'n cynnig gofodau mwy diogel i siarad am eich pryderon. Gwyliwch y fideo isod. Mae Jamie Edwards, sy’n aelod o staff, yn siarad am sut gall y gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio gefnogi eich lles. Mae capsiynau ar y fideo.  

Mae Jamie yn trafod mentora yn y fideo. Efallai y byddwch am ymuno â’r cynlluniau mentora, fel bod gennych rywun i siarad â nhw sydd wedi bod trwy brofiadau dysgu tebyg i chi. 

Gallwch hefyd roi cynnig ar y dolenni canlynol i'ch helpu gyda phryderon academaidd eraill, gan gynnwys dod o hyd i le pwrpasol i astudio (yn unigol neu mewn grwpiau). 

Os ydych chi'n newydd i'r campws eleni ac yn poeni am ddod o hyd i ble mae angen i chi fod a phryd, gallwch roi cynnig ar y dolenni hyn i'ch helpu chi.  

Os ydych yn dilyn cwrs lle mae lleoliadau gwaith yn elfen arwyddocaol, fe welwch fel arfer fod gwybodaeth benodol yn ymwneud â lleoliadau ar gael drwy eich cwrs. Chwiliwch am hyn. Gofynnwch i staff ar eich cwrs os nad ydych yn siŵr ble i ddod o hyd i’r wybodaeth. Os nad ydych chi’n dilyn y math hwn o gwrs, rhowch gynnig ar y dolenni isod.  

Angen math arall o gymorth? 

A-Z contact us


Os oes angen mathau eraill o gymorth arnoch nad oes sôn amdanynt ar y dudalen hon, neu os nad ydych yn siŵr ble i fynd, yn aml gall staff ar eich cwrs a Hyfforddwyr Academaidd Personol gyfeirio eich ymholiadau, neu gallwch gysylltu â’r Ardal Gynghori

I gael help gyda’ch anghenion iechyd meddwl, fel gorbryder ac iselder, ewch i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chwnsela

Mae Gwasanaeth y Gaplaniaeth yn cynnig amrediad o opsiynau cefnogaeth ar gyfer staff a myfyrwyr.
Ffôn: 01443 654060
E-bost: [email protected]
Argyfwng y tu allan i oriau: 03455 760101 

Rhoi adborth am y cwrs  

Feedback


Ydych chi eisiau rhoi adborth ar sut gallai eich cwrs gefnogi eich lles yn well? Defnyddiwch y dolenni hyn.  

Undeb y Myfyrwyr 

SU logo


Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gefnogi ac i helpu myfyrwyr mewn unrhyw fath o sefyllfa. Boed yn gefnogaeth academaidd neu les, gall Undeb y Myfyrwyr gynnig arweiniad a chyngor. Mae Undeb y Myfyrwyr yn meithrin gofod cyfeillgar a hawddgar i bob myfyriwr waeth beth fo'u cefndir neu gredoau.  

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn hwyluso digwyddiadau cynhwysol, ac mae croeso i unrhyw fyfyriwr eu mynychu. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynorthwyo myfyrwyr a all fod angen cymorth arnyn nhw gyda’u hiechyd meddwl a’u lles, yn enwedig o ran pandemig y COVID.