Bydd Parc Coffa Ynysangharad, yng nghanol tref Pontypridd, i fwyafrif y gweithgareddau a’r is-bafiliynau, gyda’r dref hefyd yn chwarae rhan bwysig o’r wythnos, gan greu Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy’n cyfuno’r ardal leol â’r ŵyl ei hun.
Yr Eisteddfod yw gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru, gan ddenu dros 160,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r Eisteddfod yn seiliedig ar bron i 850 o flynyddoedd o draddodiad a chynhelir yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, gan deithio o amgylch Cymru i ymweld ag ardal wahanol bob tro.
Mae'r Eisteddfod yn llwyfan naturiol i gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau gwreiddiol a llawer mwy. Gan gwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, mae’n ŵyl gynhwysol a chroesawgar, sy’n denu miloedd o ddysgwyr Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith yn ogystal â siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn. Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael yn y Pafiliwn ac mae gwybodaeth ddwyieithog ar gael.
Yn draddodiadol mae’n ŵyl sy’n seiliedig ar gystadlaethau, sy’n denu dros 6,000 o gystadleuwyr. Mae’r ŵyl wedi datblygu'n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, a thra bod y cystadlaethau’n ganolbwynt i’r wythnos, mae’r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu’n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan.
Mae’r Brifysgol wedi sicrhau’r presenoldeb stondin mwyaf (12m x 10m) sydd ar gael, gan sicrhau ein bod wrth galon y digwyddiad unigryw hwn.
Mae gennym amserlen orlawn o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous ar stondin PDC trwy gydol yr wythnos, gan arddangos popeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig. Darganfyddwch fwy yma.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cyd-noddi’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod eleni, ochr yn ochr â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Darganfyddwch fwy yma.
Yn ogystal, bydd PDC hefyd yn croesawu cannoedd o ymwelwyr a stondinwyr yr Eisteddfod i’w llety myfyrwyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan gynnig cyfleoedd ychwanegol i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r digwyddiad ei hun.