Mae'r Brifysgol yn diffinio 'amgylchiadau esgusodol' fel a ganlyn: "amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr ac sydd wedi eu hatal, neu a fydd yn eu hatal rhag perfformio mewn asesiad ar y lefel a ddisgwylir neu sy'n ofynnol ganddynt."
Mae'r asesiadau dan sylw yn cynnwys gwaith cwrs, profion dosbarth ac arholiadau. Os na allwch gyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiad cau, neu sefyll prawf dosbarth neu arholiad, oherwydd amgylchiadau esgusodol, gallwch gyflwyno cais o dan Reoliadau Amgylchiadau Esgusodol PDC. Prif bwrpas y rheoliadau hyn yw sicrhau tegwch i fyfyrwyr mewn perthynas â'r asesiadau y mae'n ofynnol iddynt eu cwblhau fel rhan o'u cwrs.
Mae tri math o gais Amgylchiadau Esgusodol:
Byddai cais llwyddiannus yn arwain at ganiatáu estyniad neu ohiriad i chi, gan eich galluogi i wneud yr asesiad ar y cyfle addas nesaf. Gallai hyn fod yn ystod y cyfnod ailsefyll neu ar adeg y cytunir arno gan diwtor y modiwl.
Myfyrwyr Colegau Partner - mae'r ffordd rydych chi'n gwneud cais am Amgylchiadau Esgusodol yn wahanol, gweler isod am fanylion.
Materion TG - ar gyfer problemau TG sy’n digwydd yn ystod asesiad mae proses wahanol, gweler Gwybodaeth a Chymorth gydag Asesiadau.
Bob blwyddyn mae dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno hawliadau amgylchiadau esgusodol ar gyfer y cyfnod ailsefyll, ar gyfer ein cyrsiau nyrsio a chyrsiau ôl-raddedig.
Cyhoeddir y dyddiadau cau hynny yma pan fyddant ar gael.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno amgylchiadau esgusodol ôl-Fwrdd fydd 10 diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau: