Mae llawer o wasanaethau cymorth PDC yn defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein, y system cymorth i fyfyrwyr ar-lein, a siop un stop ar gyfer pob ymholiad gan fyfyrwyr.
Yr Ardal Gynghori Ar-lein yw lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth trwy Cwestiynau Cyffredin, (gofyn eich cwestiynau eich hun ac archebu apwyntiadau.
Cysylltwch â’r Ardal Gynghori os na allwch ddod o hyd i'r gwasanaeth neu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Os ydych chi eisoes yn gwybod pa wasanaeth sydd ei angen arnoch chi, defnyddiwch y botwm isod i drefnu apwyntiad.
Mae’r Gwasanaethau Cymorth sydd wedi'u marcio â * yn defnyddio'r system apwyntiadau Ardal Gynghori Ar-lein (AZO):
Mae Gwasanaethau Llety yn rheoli llety Prifysgol ar gyfer myfyrwyr ar y campws.
Gall Gyrfaoedd PDC eich helpu i ddod o hyd i'ch cyfeiriad gyrfa, gwirio'ch CV, sicrhau lleoliad, darparu ffug gyfweliad a mwy a hefyd darparu cefnogaeth ar ôl graddio.
Mae'r Gaplaniaeth yn PDC ar gael fel gwasanaeth agored a chadarnhaol i bob myfyriwr ar bob campws.
Mae'r Gwasanaeth Anabledd yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, ac yn cydlynu cefnogaeth gysylltiedig ag anabledd i fyfyrwyr PDC.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn darparu cyngor a chefnogaeth sy'n rhan o ddarpariaeth gofal iechyd ochr yn ochr â'r meddyg teulu, fferyllydd, deintydd a'r GIG.
Mae tîm IISA yn cynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol i fyfyrwyr rhyngwladol ac yn darparu arbenigedd mewn cyfraith mewnfudo.
Nod Cymorth TG yw datrys ymholiadau sy'n gysylltiedig â thechnoleg cyn gynted â phosibl dros y ffôn, ar-lein neu'n bersonol.
Mae Gwasanaethau Llyfrgell yn darparu ystod eang o wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr, academyddion ac ymchwilwyr.
Mae’r Tîm Cyngor Dilyniant yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi meysydd o bryder academaidd, cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael ac yn awgrymu cynllun cymorth cyfannol.
Cynlluniau mentora myfyriwr-i-fyfyriwr gan gynnwys cefnogaeth ymarferol i fyfyrwyr newydd ynghyd â sesiynau wythnosol sy'n canolbwyntio ar waith academaidd.
Mae'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cymorth a chyngor i helpu myfyrwyr i reoli arian, ynghyd â gwybodaeth am gyllid, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau Astudio yn darparu cyngor, gwybodaeth ac adnoddau i helpu i wella perfformiad academaidd ac i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogaeth.
Mae tîm Argraffu a Dylunio PDC yn darparu gwasanaethau argraffu a dylunio i bob campws yn PDC. Gallwch archebu ar-lein drwy Siop Argraffu Ar-lein PDC.
Cymorth ac adnoddau i'ch helpu i ofalu am eich llesiant cyffredinol, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, a llesiant cymdeithasol.