Our Values v1 CYM

Gwerthoedd PDC

Nodweddir cymuned staff a myfyrwyr Prifysgol De Cymru gan ein gwerthoedd. Maen nhw'n diffinio'r rhinweddau sydd bwysicaf i ni ac yn darparu arweiniad ar gyfer popeth rydyn ni'n ei wneud er mwyn cyfoethogi ein hamgylchedd addysgu a dysgu.

Proffesiynol

Bod yn atebol am safonau eich ymddygiad eich hun, gan werthfawrogi a pharchu pob unigolyn rydych chi'n ymgysylltu ag ef.

Ysbrydoledig

Bod yn ysbrydoledig i eraill trwy fabwysiadu'r agweddau a'r ymddygiadau sy'n gysylltiedig â bod yn fod dynol da.

Creadigol

Bod yn barod i gofleidio syniadau newydd ac i herio arfer cyffredin i wella'r amgylchedd rydyn ni'n byw ac yn gweithio ynddo.

Ymatebol

Bod yn barod i dderbyn gwahaniaethau - hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - a herio'r rhai nad ydyn nhw yn adeiladol fel y gellir adeiladu ymdeimlad cadarnhaol o gymuned.

Cydweithredol

Bod yn agored i weithio gyda Theulu ehangach PDC, gan ddod â syniadau ynghyd fel y gallwn gyflawni amcanion personol a chymunedol.


Y Siarter Myfyrwyr 

Cefnogir y gwerthoedd hyn gan y Siarter Myfyrwyr, a ddatblygir ar y cyd gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ac sy'n egluro ymrwymiad y Brifysgol i weithio mewn partneriaeth â chi i ddarparu profiad myfyriwr o ansawdd uchel sy'n eich helpu i sicrhau llwyddiant personol ac academaidd.

Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i ddarllen y Siarter Myfyrwyr cyn cyrraedd fel y gallwch ddeall yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y Brifysgol, a'r hyn a ddisgwylir gennych yn ystod eich astudiaethau fel y gallwch wneud y gorau o'ch amser gyda ni.

Ystyried pobl eraill   

Boed yn byw mewn neuaddau preswyl sy'n eiddo i'r Brifysgol, llety preifat neu dai lleol, mae gan bawb gyfrifoldeb i fod yn aelodau ystyriol o'u cymuned leol. Rydym am i chi fwynhau eich cyfnod gyda ni ym Mhrifysgol De Cymru, fodd bynnag, dylech fod yn ystyriol o’r ffaith y bydd gan eich cymdogion a'r bobl o'ch cwmpas ffyrdd gwahanol o fyw.