Gwybodaeth Gweithredu Diwydiannol i Fyfyrwyr

Diweddariad: Dydd Mercher 13 Medi 2023

Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) yw'r Undeb Llafur sy'n cynrychioli staff academaidd (a rhai staff eraill) o fewn prifysgolion.

Mae UCU wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol ar draws 150 o brifysgolion ers diwedd 2022. Dechreuodd y rownd ddiweddaraf o weithredu diwydiannol ddydd Iau 20 Ebrill 2023. Mae'r mandad hwn i weithredu'n ddiwydiannol yn para hyd at chwe mis.

Mae UCU yn cymryd rhan mewn camau sy'n brin o streic, yn ogystal â diwrnodau streic. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gweithio i gontract
  • Peidio ag ymgymryd ag unrhyw weithgareddau gwirfoddol
  • Peidio â chyflenwi ar gyfer cydweithwyr sy’n absennol
  • Dileu deunyddiau sydd wedi'u lanlwytho sy'n ymwneud â darlithoedd neu ddosbarthiadau a/neu beidio â rhannu deunyddiau sy'n ymwneud â darlithoedd neu ddosbarthiadau a fydd yn cael eu canslo neu sydd wedi'u canslo o ganlyniad i streic
  • Peidio ag aildrefnu darlithoedd neu ddosbarthiadau sydd wedi'u canslo oherwydd streic

Mae UCU wedi cyhoeddi y gofynnir i’w haelodau gymryd rhan mewn pum diwrnod o streic, o ddydd Llun 25 Medi i ddydd Gwener 29 Medi.

Mae'r boicot marcio ac asesu wedi dod i ben.


Ynglŷn â’r Gweithredu Diwydiannol

Mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU), sy’n cynrychioli rhai aelodau staff Prifysgol De Cymru, yn gweithredu’n ddiwydiannol. Nid yw pob aelod o staff academaidd Prifysgol De Cymru yn aelod o UCU ac felly ni effeithir ar bob gweithgaredd.

Mae UCU yn cymryd camau gweithredu diwydiannol dros nifer o eitemau yn ymwneud â thâl ac amodau gwaith. Mae UCU yn gofyn I’w haelodau gymryd rhan mewn streiciau sy’n ymwneud â dyfarniad cyflog 2022/23, sydd wedi’i dalu ers 2022.

Mae Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau (UCEA) yn cynnal trafodaethau ynghylch y materion hyn gydag undebau ar ran tua 150 o brifysgolion yn y DU.

Maent wedi cynghori prifysgolion i weithredu cynnig dyfarniad cyflog terfynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 o rhwng 5% ac 8%, gyda chydweithwyr ar gyflog is yn cael y codiad uwch i flaenoriaethu effaith anghymesur chwyddiant uchel. Bydd lleiafswm o 5% ar gyfer pob cydweithiwr arall. Mae hyn wedi cael ei weithredu mewn dwy ran, gyda’r rhan gyntaf yn cael ei thalu o 1 Chwefror 2023, a’r ail ran yn cael ei thalu o 1 Awst 2023.

Mae streicio yn golygu y bydd rhai pobl yn gwrthod gweithio. Ni fydd aelodau staff sy'n cymryd rhan yn y streic yn cyflawni eu dyletswyddau arferol ac ni fyddant yn gweithio ar y diwrnodau hynny. Gall hyn olygu efallai na fydd gweithgareddau dysgu ac addysgu yn mynd rhagddynt fel y cynlluniwyd, ni fydd e-byst yn cael eu hateb, efallai na fydd gweithgareddau marcio a gweinyddol yn cael eu cyflawni ar y diwrnodau streicio gan y rhai sy'n cymryd rhan yn y streic.

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi na fydd holl fusnes y brifysgol yn cael ei effeithio gan na fydd yr holl staff yn cymryd rhan yn y streic.

Gall staff sy’n streicio ffurfio llinellau piced (dim mwy na chwech yn gyffredinol) wrth fynedfeydd rhai o’n safleoedd, i egluro i bobl pam eu bod ar streic. Ni chewch eich rhwystro rhag mynd i mewn i unrhyw un o’r campysau ac fe’ch anogir i barhau i fynychu ein campysau fel arfer.

Camau sy'n brin o streic yw pan fydd staff yn cymryd camau gweithredu eraill - mae UCU wedi cadarnhau y bydd hyn yn cynnwys staff yn gweithio eu horiau a'u dyletswyddau cytundebol yn unig ac nid yn gwirfoddoli i wneud mwy.

Bydd y Brifysgol ar agor fel arfer ar ddiwrnodau pan fydd streic yn cael ei gymryd. Ni fydd pob aelod o staff yn cymryd rhan yn y streic, felly dylech barhau i fynychu eich sesiynau wedi'u hamserlennu, oni bai eich bod yn cael gwybod gan y brifysgol bod eich sesiwn wedi'i heffeithio. Fodd bynnag, gan nad oes rhaid i staff unigol sy'n cymryd rhan yn y streic roi rhybudd ymlaen llaw i'r Brifysgol, efallai y bydd rhai sesiynau nad ydynt yn mynd rhagddynt ar fyr rybudd. Byddwch yn cael eich cynghori ar unrhyw ddysgu yr effeithir arno drwy’r sianeli cyfathrebu arferol a ddefnyddir gan eich tîm addysgu (e.e. Blackboard, e-byst, Teams ac ati).

Os bydd unrhyw rai o'ch sesiynau wedi'u hamserlennu yn cael eu heffeithio, fe'ch anogir o hyd i ddod i'r safle i ddefnyddio'r llyfrgelloedd a chyfleusterau eraill y brifysgol ar gyfer astudiaeth grŵp neu unigol.

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn achosi ansicrwydd a phryder i chi, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i liniaru effaith y streic ar eich profiad myfyriwr.

Addysgu ac Asesu

Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i roi gwybod i chi os bydd sesiwn wedi'i hamserlennu yn cael ei heffeithio. Fodd bynnag, nid oes rhaid i staff unigol sy'n cymryd rhan yn y streic roi rhybudd ymlaen llaw i'r Brifysgol. Tra byddwn yn gwneud ein gorau i roi gwybod i chi cyn gynted â phosibl os bydd sesiwn yn cael ei heffeithio, efallai y bydd yn bosibl y bydd yn rhaid aildrefnu sesiwn ar fyr rybudd. Byddwch yn cael eich cynghori ar unrhyw ddysgu yr effeithir arno drwy’r sianeli cyfathrebu arferol a ddefnyddir gan eich tîm addysgu (e.e. Blackboard, e-byst, Teams ac ati).

Os bydd unrhyw rai o'ch sesiynau wedi'u hamserlennu yn cael eu heffeithio, fe'ch anogir o hyd i ddod i'r safle i ddefnyddio'r llyfrgelloedd a chyfleusterau eraill y brifysgol ar gyfer astudiaeth grŵp neu unigol.

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn achosi ansicrwydd a phryder i chi, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i liniaru effaith y streic ar eich profiad myfyriwr.

Os effeithir ar eich sesiwn/sesiynau ar yr amserlen, byddwch yn derbyn gwybodaeth gan eich tîm addysgu am unrhyw drefniadau amgen.

Bydd y broses arferol ar gyfer monitro presenoldeb yn ei lle ar gyfer yr holl sesiynau a amserlennwyd sy'n parhau ar y diwrnodau pan fydd streic. Os na fydd sesiwn yn mynd yn ei blaen, o ganlyniad i aelod staff ar streic, yna bydd y monitro presenoldeb yn cael ei atal ar gyfer y sesiwn honno.

Os bydd arholiad a drefnwyd yn disgyn ar ddiwrnod y streic arfaethedig, dylech gymryd yn ganiataol y bydd yn mynd yn ei flaen a dylech fynychu fel arfer.

Lle mae'r streic yn effeithio ar sesiynau addysgu neu asesu a gynllunnir, bydd eich tîm addysgu'n gwneud addasiadau i derfynau amser asesu cysylltiedig a bydd gan Arweinwyr Modiwl yr awdurdod i gymhwyso estyniadau asesu fel y bo'n briodol. Ni fydd angen i chi ofyn am y rhain yn unigol.

Ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr ni ddylai fod angen cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol oherwydd y gweithredu diwydiannol. Mae trefniant wedi’i roi ar waith o fewn y Rheoliad a Gweithdrefnau Amgylchiadau Esgusodol i alluogi cyfadrannau i bennu’r effaith ar y modiwl, a lle bo’n briodol i awdurdodi estyniadau carfan i asesiadau. Fodd bynnag, os oes gennych amgylchiadau unigol penodol a effeithiodd ar eich astudiaethau, gallwch gyflwyno ffurflen amgylchiadau esgusodol yn y ffordd arferol.

Pan fydd y streic yn effeithio ar addysgu, bydd eich tîm addysgu yn gwneud addasiadau ac yn ymdrechu i sicrhau bod addysgu a gollwyd yn cael ei aildrefnu neu ei ddarparu trwy lwybrau amgen. Os, am unrhyw reswm, nad yw hyn yn bosibl oherwydd amseriad penodol yr asesiadau, yna gwneir addasiadau i friffiau asesu neu arholiadau i gydnabod hyn.

Mae'n bosibl y bydd ychydig o oedi wrth farcio ac adborth oherwydd gweithredu diwydiannol. Yn seiliedig ar yr hysbysiad cyfredol o weithredu arfaethedig gan yr Undeb, nid ydym yn rhagweld y bydd canlyniadau ffurfiol yn cael eu heffeithio, er y byddwn yn parhau i adolygu hyn os bydd unrhyw gamau pellach, ac yn rhoi gwybod i chi.

Ni fydd pob aelod staff yn streicio, a gallai cyfarfodydd goruchwylio a drefnwyd ar ddiwrnodau streicio fynd yn eu blaenau fel arfer. Fodd bynnag, nid oes rhaid i staff sy'n cymryd rhan yn y streic roi rhybudd ymlaen llaw i'r Brifysgol. Ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio wedi'u hamserlennu, mae'n syniad da gwirio gyda'ch goruchwylwyr a fydd y cyfarfodydd yn mynd yn eu blaenau fel y cynlluniwyd. Mae'n bosibl y bydd ychydig o oedi wrth roi adborth ar waith oherwydd gweithredu diwydiannol.

Efallai y bydd hyn yn effeithio ar arholiadau Viva a drefnwyd ar ddiwrnodau streicio; nodir bod timau arholi yn cynnwys un neu fwy o arholwyr o'r tu allan i'r sefydliad, yn ogystal ag arholwr a Chadeirydd a gyflogir gan y Brifysgol. Dylai ymgeiswyr sy'n disgwyl arholiad viva ar ddiwrnod streic gysylltu â'u goruchwylwyr a’r Ysgol Graddedigion i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau. Disgwylir y bydd arholiadau viva nad ydynt wedi'u hamserlennu ar ddiwrnodau streicio yn cael eu cynnal yn unol â'r amserlen, ond nodir y gallai'r adolygiad o waith a gyflwynwyd, gan gynnwys yr adolygiad o ddiwygiadau i waith ar ôl arholiad llafar, hefyd gael ei ohirio.

Disgwylir i weithgarwch ymchwil sy'n defnyddio cyfleusterau arbenigol ddigwydd fel arfer, ond ar gyfer gweithgaredd sy'n cynnwys goruchwyliaeth neu hyfforddiant gan staff academaidd fe'ch anogir i wirio a fydd gweithgareddau'n mynd rhagddynt ar ddiwrnodau streicio.

Gwybodaeth bellach

Rydym yn gwerthfawrogi y gall gweithredu diwydiannol achosi ansicrwydd a phryder a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i liniaru effaith gweithredu diwydiannol ar eich profiad fel myfyriwr.

Gellir cyrchu holl wasanaethau cymorth y Brifysgol trwy Barth Cyngor y Brifysgol.

Bydd effaith y gweithredu diwydiannol yn amrywio ar draws y Brifysgol. Er y gall fod rhywfaint o waith addysgu neu asesiadau yn cael ei effeithio, bydd eich timau addysgu yn rhoi trefniadau amgen ar waith i wneud iawn am unrhyw addysgu a gollwyd i’ch galluogi i ddal i fyny â’ch dysgu, neu, mewn ychydig iawn o achosion, addasu asesiadau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y gweithredu diwydiannol, gallwch siarad â'ch tîm addysgu a'r Ardal Gynghori, neu ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig, eich tîm goruchwylio.

Ni ddylech gyflwyno cwyn cyn i unrhyw weithredu diwydiannol ddigwydd a dylech sicrhau eich bod wedi trafod unrhyw bryderon gyda thîm eich modiwl/cwrs yn gyntaf. Os, ar ôl trafod eich pryder, y byddwch o'r farn nad yw'r Brifysgol wedi mynd i'r afael yn llawn â'ch pryderon, yna gallwch gyflwyno cwyn, gan ddefnyddio Gweithdrefn Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol, a chyfeirio at unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud yn benodol â’r gweithredu diwydiannol. Eglurwch sut rydych chi'n meddwl bod y Brifysgol wedi methu â chyflawni ei chyfrifoldebau i chi oherwydd y gweithredu diwydiannol a pha effaith andwyol fu arnoch. Rhowch fanylion y modiwlau a'r sesiynau addysgu yr effeithiwyd arnyn nhw ac unrhyw dystiolaeth o effaith unrhyw darfu arnoch chi.

Os ydych yn credu bod y gweithredu diwydiannol wedi effeithio ar eich perfformiad academaidd efallai y bydd yn briodol dilyn y weithdrefn amgylchiadau esgusodol, cyn cyflwyno/sefyll asesiadau/arholiadau, neu gallwch godi pryder drwy'r weithdrefn apeliadau academaidd ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau.

Sylwer bod y Cofrestrydd Academaidd eisoes wedi rhoi gweithdrefn ar waith o dan y weithdrefn amgylchiadau esgusodol i alluogi cyfadrannau i roi estyniadau i ddyddiadau cau ar gyfer carfannau cyfain er mwyn lliniaru effaith gweithredu diwydiannol. Felly, dylech wirio gyda thîm eich modiwl/cwrs ynghylch terfynau amser cyn defnyddio'r weithdrefn amgylchiadau esgusodol.

Cysylltwch â'r Ardal Gynghori os oes angen mwy o gyngor arnoch o ran y weithdrefn amgylchiadau esgusodol.

Os ydych am godi pryder ynghylch eich canlyniad academaidd, gallwch gyflwyno apêl drwy ddefnyddio Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol os yw eich pryderon yn ymwneud ag un o'r canlynol:

  • Roedd gwall gweinyddol
  • Ni ddilynwyd proses briodol mewn perthynas ag asesiadau
  • Roedd diffygion yn y cyngor a ddarparwyd parthed asesiadau
  • Gwnaed penderfyniad academaidd nad oedd yn unol â rheoliadau'r cwrs.

Dim ond ar ôl i benderfyniadau'r bwrdd asesu gael eu cyhoeddi a’ch bod wedi derbyn eich canlyniadau ffurfiol ar gyfer y flwyddyn academaidd dan sylw y gallwch gyflwyno apêl.

Ar ôl i weithdrefnau mewnol y Brifysgol gael eu cwblhau, byddwch yn cael Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau. Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad y Brifysgol mewn perthynas â'ch cwyn neu apêl, yna gallwch ddefnyddio cynllun Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (OIA). Bydd angen i chi roi eich Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau iddynt. Os byddwch yn penderfynu gwneud cwyn i'r OIA, rhaid i'ch Ffurflen Gŵyn OIA gael ei derbyn gan yr OIA o fewn 12 mis i ddyddiad eich Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau.

Mae canllawiau ar gyflwyno cwyn i'r OIA a Ffurflen Cwynion yr OIA hefyd ar wefan yr OIA. Efallai y byddwch hefyd am ofyn am gyngor gan Undeb y Myfyrwyr o ran mynd â'ch cwyn i'r OIA.

Ni ddylai eich presenoldeb a'ch cofnod presenoldeb gael ei effeithio'n negyddol lle bu gweithredu diwydiannol gan staff yn eich Cyfadran. Bydd cydweithwyr academaidd yn cofnodi unrhyw bwynt monitro a gollwyd fel un 'awdurdodedig' gyda nodyn i ddweud mai gweithredu diwydiannol sy'n gyfrifol am hyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch monitro eich presenoldeb, anfonwch e-bost at [email protected].

Mae’r UKVI wedi datgan bod polisi consesiwn wedi’i gyflwyno ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol y gallai’r boicot marcio ac asesu amharu ar eu cais am lwybr graddedig.

Os ydych yn pryderu y gallai’r boicot marcio ac asesu effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer Llwybr Graddedig neu fisa gweithiwr medrus, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau mewnfudo eraill, cysylltwch â [email protected].