Sut i hawlio IYR
Ar gyfer asesiadau cymwys, bydd IYR ar gael pan fyddwch wedi cyflwyno gwaith dilys a phriodol y cawsoch farc amdano sy'n is na'r marc pasio ar gyfer yr asesiad hwnnw. Nid yw IYR ar gael ar gyfer rhai nad ydynt yn cael eu cyflwyno, hy, nid yw ar gael os na wnaethoch gyflwyno'r asesiad o gwbl y tro cyntaf.
Dilynwch y camau canlynol:
- Gofynnwch i arweinydd eich modiwl a yw'r asesiad yn gymwys ar gyfer IYR.
- Rhowch wybod i arweinydd eich modiwl eich bod am wneud ymgais IYR.
- Darllenwch drwy'r adborth ar eich asesiad gwreiddiol yn ofalus, gan nodi lle mae angen i chi wella eich gwaith. Trafodwch gydag arweinydd eich modiwl os oes angen.
- Gwnewch y newidiadau angenrheidiol i'ch gwaith. Dylai eich cyflwyniad IYR gael ‘Track Changes’ wedi'u galluogi, fel bod y person sy'n marcio'r gwaith yn gallu gweld yn glir pa newidiadau / gwelliannau sydd wedi'u gwneud fel ymateb i'r adborth. Gweler ‘Track Changes’ yn Word. Os nad yw'n bosibl defnyddio ‘Track Changes’ oherwydd fformat y cyflwyniad, rhaid i chi gynnwys crynodeb o'r newidiadau a wnaed.
- Bydd arweinydd eich modiwl yn eich cynghori sut/ble i gyflwyno'r fersiwn newydd o'ch gwaith.
- Rhaid gwneud cyflwyniadau IYR o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y marc a'r adborth ar gyfer y gwaith a gyflwynwyd yn wreiddiol.
Sylwer:
- Dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio IYR ar unrhyw asesiad penodol.
- Gallwch ddefnyddio IYR ddwywaith ar y mwyaf fesul lefel cwrs.
- Bydd eich marc yn dilyn ymgais IYR yn cael ei gapio ar y marc pasio ar gyfer yr asesiad hwnnw.
- Ni fydd unrhyw waith a gyflwynir ar ôl y terfyn amser o 10 diwrnod yn cael ei dderbyn.
- Nid yw'r cyfnod gras o bum niwrnod (gweler adrannau 76-78 o’r Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a Addysgir) yn berthnasol i ail-gyflwyniadau IYR.
- Nid yw Amgylchiadau Esgusodol (ECs) yn berthnasol i IYR, gan mai’r un asesiad yw e.
- Os oedd gennych ECs ar gyfer cyflwyniad gwreiddiol yr asesiad, yna ni allwch ymestyn y ECs i gynnwys yr IYR.