Toriad ar Astudio

Os yw amgylchiadau'n ei gwneud hi'n anodd i chi barhau â'ch cwrs, gallwch wneud cais am doriad ar eich astudiaethau. Mae toriad ar astudiaethau yn golygu cymryd seibiant dros dro o'ch astudiaethau am gyfnod o amser y cytunwyd arno, fel arfer am hyd at un flwyddyn academaidd, ac mae ei angen amlaf am resymau iechyd, ariannol, personol neu waith.

Pa bynnag reswm sydd gennych dros gael toriad ar eich astudiaethau, mae'n bwysig iawn meddwl beth fyddwch chi'n ei wneud yn ystod y toriad a beth fydd yn wahanol neu'n well am eich sefyllfa pan fyddwch chi'n dychwelyd.

Dylai myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy'n dymuno cael toriad ar eu hastudiaethau gysylltu â’r Ysgol Graddedigion am arweiniad ar y broses hon.

Pryd alla i gael toriad?

Fel arfer mae dyddiadau cau ar gyfer gofyn am doriad ar astudio tua 4 wythnos cyn eich bwrdd asesu terfynol bob blwyddyn. Bydd y dyddiadau cau hyn yn cael eu cyhoeddi yma pan fyddant ar gael.


Cyn ail-gofrestru

Dim ond ar ddiwedd blwyddyn academaidd y gellir gwneud ceisiadau ‘y tu allan i’r flwyddyn’ a chyn y dyddiad y disgwylir i chi ail-gofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Rhaid cyflwyno ceisiadau am doriad ar astudio am flwyddyn academaidd gyfan cyn dyddiad ail-gofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Ar ôl cofrestru

Os gwneir eich cais ar ôl ail-gofrestru, a'i fod yn cael ei dderbyn, caniateir i chi gymryd amser i ffwrdd ac ailddechrau eich astudiaethau naill ai ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf neu ar ddechrau'r tymor cyfatebol yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

Goblygiadau ariannu

Mae'n rhaid i chi ddarllen y canllawiau ar dudalen we Ydy eich amgylchiadau'n newid? yn ofalus, i sicrhau eich bod yn deall goblygiadau ariannol a goblygiadau eraill cael toriad ar eich astudiaethau. Fe'ch cynghorir hefyd i drefnu apwyntiad gyda Chynghorydd Ariannol i Fyfyrwyr i drafod sut y bydd eich amgylchiadau unigol a'ch hanes astudio yn effeithio ar eich hawl i gyllid.

Sut i gael toriad

Os yw eich sefyllfa bresennol yn effeithio ar eich gallu i berfformio mewn asesiadau, ond eich bod yn teimlo y gallwch barhau â'ch astudiaethau am weddill y tymor / blwyddyn, efallai y byddwch am wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol yn lle hynny. Mae canllawiau ar gyflwyno cais ar dudalen we Amgylchiadau Esgusodol.

Os ydych yn ystyried cael toriad ar eich astudiaethau, rhaid i chi drafod eich cais yn gyntaf gyda'r Arweinydd/Arweinwyr Cwrs priodol cyn ei gyflwyno, er mwyn sicrhau eich bod yn deall yn llawn yr ystyriaethau ymarferol o gymryd toriad.

Bydd angen i'ch Arweinydd Cwrs gadarnhau hefyd y bydd eich cwrs ar gael yn y flwyddyn academaidd nesaf a chymeradwyo'ch penderfyniad i gael toriad ar eich astudiaethau.

Os ydych wedi cwblhau modiwlau yn eich blwyddyn astudio bresennol, bydd eich Arweinydd Cwrs yn penderfynu a ddylech gadw'r marciau ai peidio. Os cedwir marciau, byddwch yn cadw'r graddau yr ydych wedi'u hennill hyd at yr adeg y byddwch yn cael toriad. Os ddim, bydd angen i chi ddechrau o'r newydd gydag asesiadau newydd y flwyddyn academaidd nesaf.

Os ydych yn cael toriad ar eich astudiaethau ar ôl ail-gofrestru, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r amgylchiadau sy'n effeithio ar eich astudiaethau. Rhestrir y mathau o dystiolaeth a dderbynnir yn nodweddiadol yn y tabl.

Myfyrwyr rhyngwladol

Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio ar fisa Haen 4 gael llofnod Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol PDC i gadarnhau eu bod wedi ceisio ac wedi rhoi cyngor.

Cyflwyno eich cais

Rhaid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflen gais Toriad ar Astudio.  Gallwch wneud cais am un yn yr Ardal Gynghori Ar-lein.  Byddwch yn derbyn nodiadau canllaw gyda'r ffurflen.  Darllenwch y rhain yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi pob adran o'r ffurflen sy'n berthnasol i chi.

Hysbysiad o ganlyniad eich cais

Ystyrir Ceisiadau am Doriad ar Astudiaethau o dan Reoliadau Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol. Mae'r Rheoliadau ar gael yma.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais i gael toriad ar eich astudiaethau, byddwch yn derbyn hysbysiad o'r canlyniad a chyngor ar beth i'w wneud nesaf trwy'r Ardal Gynghori Ar-lein. Bydd hyn fel arfer o fewn 5 diwrnod gwaith o benderfyniad y panel Amgylchiadau Esgusodol.

Gwybodaeth bwysig

  • Unwaith y bydd eich cais i gael Toriad ar Astudiaethau wedi'i gymeradwyo, bydd y broses o ddileu mynediad i'ch cyfrif TG yn dechrau. Mae hyn yn golygu na fydd gennych chi bellach fynediad i'ch E-bost, Blackboard na Gwasanaethau Llyfrgell nes i chi ail-gofrestru ar y cwrs.
  • Pan fyddwch yn ailddechrau, bydd eich astudiaethau yn dilyn y rheoliadau ar gyfer y garfan rydych yn ymuno â hi.

Cais am Adolygiad

Gellir gwneud Cais am Adolygiad os teimlwch fod gwall gweithdrefnol gyda’ch hawliad, neu os oes gennych dystiolaeth newydd i gefnogi’ch cais nad oedd yn hysbys neu nad oedd ar gael ar adeg eich cais gwreiddiol.

Rhaid cyflwyno Ceisiadau am Adolygiad ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith o dderbyn hysbysiad o ganlyniad eich cais i gael toriad ar eich astudiaethau. Mae'r Ffurflen Cais am Adolygiad ar gael yma.

Cyngor a chefnogaeth

Gallwch ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein i ofyn cwestiwn neu bori drwy’r Cwestiynau Cyffredin. Os oes angen rhagor o arweiniad neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r Ardal Gynghori yn uniongyrchol.

Ailddechrau eich astudiaethau

Ar ôl y toriad, byddwch fel arfer yn ailddechrau eich astudiaethau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf neu'r tymor cyfatebol. Er enghraifft, os byddwch yn cael toriad ar eich astudiaethau yn ystod tymor yr hydref, bydd gofyn i chi ddychwelyd ar ddechrau tymor yr hydref canlynol.

I gael rhagor o arweiniad a chymorth o ran ailddechrau eich astudiaethau, ewch i Dychwelyd i Astudio yn dilyn Toriad.