Ceir nifer o ffynonellau cymorth, cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr a staff y Brifysgol sy'n nodi eu bod yn LHDTC+ (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Queer a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd arall).
Mae Modelau Rôl LHDTC+ PDC yn aelodau gwirfoddol o staff sy’n frwd dros hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+ o fewn y Brifysgol ac sydd wedi ymrwymo i fod yn fodelau rôl gweladwy, gan gyfleu’r neges bwysig y gall pobl fod eu hunain yn y Brifysgol ac y gellir eu derbyn yn ddieithriad.
Mae’r Modelau Rôl LHDTC+ yn bwyntiau cyswllt ar gyfer myfyrwyr (neu staff) sy’n dod ar draws mater LHDTC+ yr hoffent siarad amdano â pherson sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+. Maent hefyd yn darparu syniadau, cefnogaeth a chyngor ar ddatblygu cydraddoldeb LHDTC+ yn y brifysgol.
Mae Cymdeithas LHDTC+ Undeb y Myfyrwyr yn lle diogel i bobl o bob rhywioldeb ddod at ei gilydd mewn modd cymdeithasol, heb ofni barn.
Weithiau, mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddogion Ymgyrch rhyddid sy’n ymgyrchu dros faterion LHDTC+, yn dibynnu ar y diddordeb yn y rolau a'r etholiadau.
Gall Swyddogion Lles Undeb Myfyrwyr eich cefnogi os oes angen cymorth arnoch o ran bwlio ac aflonyddu.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y dylai'r holl staff a myfyrwyr gael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt yr hawl i gael eu trin ag urddas a pharch yn y gwaith ac wrth astudio. Mae'r Polisi Urddas wrth Astudio yn esbonio sut mae'r Brifysgol yn ymdrin â chwynion am aflonyddu, bwlio, triniaeth annheg ac erledigaeth.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr hefyd bolisi ar fwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â LGBT, cysylltwch ag Undeb y Myfyrwyr am fanylion.
Mae gan bawb ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yr hawl i deimlo'n ddiogel ac i gael eu cefnogi.
Os ydych yn profi, neu'n dyst i ddigwyddiad sy'n peri pryder, gallwch ddweud wrthym drwy gyflwyno ffurflen ar y wefan hon.
Stonewall Cymru – cangen Cymru elusen lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDTC+) fwyaf Ewrop. Mae Stonewall yn rhoi cyngor ar bob agwedd ar gyfeiriadedd rhywiol.
Mae Trans Unite yn caniatáu i aelodau o'r cymunedau trawsrywiol ac anneuaidd ddod o hyd i grŵp cymorth sy'n lleol iddynt.
Mae'r Datganiad Polisi Cydraddoldeb Trawsryweddol yn amlinellu ymrwymiad PDC i hyrwyddo cydraddoldeb ar sail hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd.
FFLAG - adnodd gwych i deulu a ffrindiau pobl LHDTC+.