Rhai termau a ddefnyddir yn gyffredin yn ymwneud â hunaniaeth o ran rhywedd.
Weithiau, ceir camddealltwriaeth bod hunaniaeth o ran rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol yn gysylltiedig. I osgoi hyn, rydym wedi ceisio cadw'r holl dermau yma yn gysylltiedig â hunaniaeth o ran rhywedd.
Sylwch: mae gwahanol bobl yn cael gwahanol dermau sy'n dderbyniol ac yn sarhaus, er enghraifft queer, FTM/MTF, trawswisgiwr. Dylech bob amser ofyn i berson pa dermau y mae'n well ganddynt i chi eu defnyddio wrth siarad â nhw/cyfeirio atyn nhw.
Yn ogystal, yn aml gall fod gwahaniaeth o ran beth mae gwahanol dermau yn ei olygu i bobl, felly, wrth ofyn i rywun pa dermau sy'n dderbyniol, gallech chi ofyn iddyn nhw 'beth mae hynny'n ei olygu i chi? '
AGENDER
Mae Agender yn cael ei gyfieithu’n llythrennol fel ‘heb rywedd' (dim rhywedd) ond, fel llawer o dermau eraill, gall olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae rhai'n defnyddio agender oherwydd ar hyn o bryd nid oes disgrifiad o'r rhywiau sy'n cyfateb i'w hunaniaeth, ond gall eraill deimlo bod rhywedd yn anniffiniadwy.
AILBENNU RHYWEDD
Ffordd arall o ddisgrifio proses drawsnewid rhywun. Fel arfer bydd mynd drwy broses ailbennu rhywedd yn golygu cael rhyw fath o driniaeth feddygol, ond gall hefyd olygu newid enwau, rhagenwau, gwisgo'n wahanol a byw yn y rhywedd maen nhw'n ei arddel. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'r term yn cael ei ddehongli ymhellach yng nghod ymarfer Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'n derm sy'n achosi llawer o ddadlau ac yn un, teimlir Grŵp Cynghori Traws Stonewall, sydd angen ei adolygu.
ALLAN/DOD ALLAN
Pobl LGBTQ+ sy'n byw'n agored ac yn dweud wrth bobl am eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Mae hon yn broses; nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd ar un achlysur yn unig. Bydd rhai pobl allan mewn rhai mannau ac i rai pobl, ond nid i eraill.
ANNEUAIDD
Term ymbarél ar gyfer pobl nad yw eu hunaniaeth o ran rhywedd yn ffitio’n gyfforddus â 'dyn' neu 'fenyw'. Mae hunaniaethau nad ydynt yn ddeuaidd yn amrywiol a gallant gynnwys pobl sy'n uniaethu â rhai agweddau ar hunaniaethau deuaidd, tra bod eraill yn eu gwrthod yn llwyr.
CAMENWI
Galw rhywun wrth yr enw a roddwyd iddynt ar enedigaeth ar ôl iddynt newid eu henw. Mae'r term hwn fel arfer yn gysylltiedig â phobl traws sydd wedi newid eu henw fel rhan o'u trawsnewid. Mae camrywedd rhywun yn fwriadol yn fath o fwlio ac aflonyddu. Mae camenwi rhywun yn fwriadol yn fath o fwlio ac aflonyddu.
CAMRYWEDD/CAMGENDRO
Defnyddio ' r rhagenwau anghywir neu eiriau eraill rhyw-benodol wrth gyfeirio at rywun neu siarad â rhywun, sydd fel arfer yn gysylltiedig â phobl drawsrywiol. Mae camrywedd rhywun yn fwriadol yn fath o fwlio ac aflonyddu.
CISRHYWIAETH/CISNORMADOL
Y dybiaeth fod pawb yn gydryweddol, a bod unrhyw un sy’n gydryweddol yn uwchraddol. Pwyslais ar gydryweddol fel 'y norm' a safle sy'n cael ei werthfawrogi mewn cymdeithas. Mae'r cyfryngau yn aml yn atgyfnerthu cisnormadol drwy ddelweddau a ddefnyddir neu'r ffordd y caiff cymeriadau eu portreadu.
CWESTIYNU
Y broses o archwilio'ch hunaniaeth o ran rhywedd a/neu rywedd eich hun.
CYDRYWEDDOL NEU CIS
Rhywun y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Dyma'r term am bawb heblaw pobl draws.
CYNGHREIRIAD
Person (fel arfer) syth a/neu gydryweddol sy'n cefnogi aelodau o'r gymuned LGBTQ+.
DATGELU HEB GYDSYNIAD/OWTIO
Pan fydd hunaniaeth o ran rhywedd neu rhywedd person lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryw (neu rywun â hunaniaeth arall o fewn ymbarél LGBTQ+) yn cael ei ddatgelu i rywun arall heb ei gydsyniad.
Mae dweud wrth rywun am gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rywedd person heb eu cymeradwyaeth, sef ‘outing’ yn fath o aflonyddu, a gall fod â goblygiadau difrifol i'r unigolyn a'i ddiogelwch.
DOD ALLAN
Pan fydd person yn dweud yn gyntaf wrth rywun/eraill am ei hunaniaeth o fewn yr ymbarél LGBTQ+.
DYN TRAWSRYWEDDOL
Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni, ond sy'n arddel hunaniaeth dyn ac yn byw fel dyn. Gall hyn gael ei fyrhau i 'dyn traws', neu FTM, sef talfyriad o 'benyw-i-wryw'.
DYSFFORIA RHYWEDD
Fe'i defnyddir i ddisgrifio pan fydd rhywun yn profi anesmwythder neu drallod oherwydd bod gwrthdaro rhwng eu hunaniaeth o ran rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Hwn hefyd yw'r diagnosis clinigol ar gyfer rhywun nad yw'n teimlo'n gyfforddus gyda'r categori rhywedd y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni.
HUNANIAETH O RAN RHYWEDD
Ymdeimlad mewnol rhywun o'u rhywedd nhw eu hunain, boed hynny'n wrywaidd, yn fenywaidd neu'n rhywbeth arall (gweler y term ‘agender’ ac 'anneuaidd'), a all fod yn cyfateb, neu ddim yn cyfateb, i'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni.
LGBT/LGBTQ/LGBTQIAP+/LGBTQ+
Acronym ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a chwestiynu neu queer. Mae hefyd weithiau A ar gyfer asexual/aromantig, an I am rhyngrywiol, a P am panrywiol/panrhamantaidd, ac arwydd plws yn cynrychioli hunaniaethau eraill.
MENYW DRAWSRYWEDDOL
Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw gwrywaidd adeg ei eni, ond sy'n arddel hunaniaeth menyw ac yn byw fel menyw. Gall hyn gale ei fyrhau i 'menyw traws', neu MTF, sef talfyriad o 'gwryw-i-fenyw'.
MYNEGIANT RHYWEDD
Sut mae unigolyn yn dewis mynegi eu rhywedd, yng nghyd-destun disgwyliadau cymdeithasol rhywedd. Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd bod unigolyn nad yw'n cydymffurfio â disgwyliadau cymdeithasol o ran rhywedd yn arddel hunaniaeth traws.
QUEER
Yn y gorffennol, term difrïol ar gyfer unigolion LGBTQ+. Erbyn hyn, mae'r term wedi cael ei adennill gan lawer o bobl LGBTQ+, yn enwedig y rhai nad ydynt yn uniaethu â chategorïau traddodiadol o ran rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd.
RHAGENW
Geiriau rydyn ni'n eu defnyddio i gyfeirio at rywedd pobl wrth sgwrsio – er enghraifft, 'fe', 'hi' neu 'nhw'. Mae rhai pobl am i eraill gyfeirio atyn nhw mewn iaith rywedd-benodol, eraill mewn iaith sy'n niwtral o ran rhywedd. Gall iaith niwtral o ran rhywedd olygu defnyddio rhagenwau megis 'nhw' neu 'ze/zir'. Nid yw rhai pobl am i eraill gyfeirio atynt gan ddefnyddio unrhyw rhagenwau ac maent am i enw gael ei gyfeirio atynt yn lle hynny. Peidiwch â rhagdybio rhagenwau person yn seiliedig ar eu hymddangosiad neu fynegiant rhywedd, gofynnwch bob tro pa ragenwau (os o gwbl) a ddefnyddiant.
RHYNGRYWIOL
Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a allai fod â nodweddion biolegol y ddau ryw, neu rywun nad yw eu nodweddion biolegol yn cyd-fynd â rhagdybiaethau cymdeithasol am yr hyn sy'n gwneud rhywun yn wrywaidd neu'n fenywaidd. Gall pobl rhyngrywiol arddel hunaniaeth wrywaidd, hunaniaeth fenywaidd neu hunaniaeth anneuaidd.
Nid yw pob person rhyngryw yn ystyried eich hun yn drawsrywiol, ond mae rhai yn gwneud hynny.
RHYW A NEILLTUIR ADEG GENI
Neilltuir rhyw ar enedigaeth i bobl, yn seiliedig ar nodweddion rhyw (genitalia). Gellir neilltuo i berson 'gwryw', 'benyw' neu ' rhyngryw'. Nid yw hyn o reidrwydd yn adlewyrchu sut y bydd unigolyn yn uniaethu neu'n teimlo amdano'i hun.
RHYWEDD
Gan amlaf yn cael ei fynegi yn nhermau gwrywdod a benyweidd-dra. Penderfynir y cysyniad rhywedd hwn i raddau helaeth gan ddiwylliant a thybir ei fod yn alinio â rhyw a neilltuir adeg geni.
RHYWEDD A GAFFAELWYD
Term cyfreithiol a ddefnyddir yn Neddf Cydnabod Rhyw 2004. Mae'n cyfeirio at y rhyw y mae person sy'n gwneud cais am dystysgrif cydnabod rhyw (GRC) wedi byw ynddo ers dwy flynedd ac yn bwriadu parhau i fyw ynddo. Gellir cadarnhau'r rhyw pan fydd person wedi trawsnewid ond mae wedi penderfynu peidio â gwneud cais am GRC.
RHYWEDD AMRYWIOL (neu RYWEDD NAD YW’N CYDYMFFURFIO)
Ymddygiad neu fynegiant rhyw sy'n wahanol i'r hyn y mae cymdeithas yn ei ddisgwyl gan berson yn seiliedig ar y rhyw a neilltuir ar eu cyfer adeg eu geni. Defnyddir hyn yn aml mewn perthynas â phlant neu bobl ifanc.
RHYWEDD CYFREITHIOL
Pennir rhyw 'cyfreithiol' person gan ei ryw ar ei dystysgrif geni a'r dybiaeth a wneir adeg geni yw bod eu parau statws rhyw (gwryw/benyw) yn cyd-fynd. Mewn prifysgolion, ceir adegau pan fydd angen cofnodi rhyw cyfreithiol person.
RHYWEDD CYFNEWIDIOL
Person nad yw ei rywedd yn statig ac yn newid drwy gydol ei fywyd. Gallai hyn fod ar sail ddyddiol/wythnosol/misol a bydd yn wahanol i bawb.
RHYWEDD DEUAIDD
Y syniad mai dim ond dau ryw sydd yna – dyn a dynes. (Mae hyn yn anghywir ac mae’n eithrio hunaniaethau o ran rhywedd eraill).
RHYWEDD QUEER
Person nad yw ei hunaniaeth o ran rhywedd yn wryw neu'n fenyw, rhwng y rhywiau, neu'n gyfuniad o ryweddau.
TRAWS
Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yn nodweddiadol yn cyd-fynd neu yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Gall pobl traws ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) traws, trawsrywiol, gender-queer (GQ), rhywedd-ansefydlog, anneuaidd, rhywedd-amrywiadol, anrhywedd, agender, anrhywedd, trydydd rhywedd, deuysbrydol, deurywiol, dyn traws, menyw traws, gwrywaidd traws, benywaidd traws neu neutrois.
TRAWSFFOBIA
Ofn neu atgasedd at rhywun sy'n seiliedig ar ragfarn neu agweddau, credoau neu safbwyntiau negyddol am bobl trawsrywiol, gan gynnwys gwadu/gwrthod derbyn eu hunaniaeth o ran rhywedd. Gall bwlio trawsffobig gael ei dargedu at bobl sydd, neu sy'n cael eu hystyried yn traws.
TRAWSRYWIOL
Yn y gorffennol roedd hwn yn derm mwy meddygol (gweler hefyd 'cyfunrywiol') er mwyn cyfeirio at rywun oedd wedi trawsnewid i fyw yn y rhywedd 'gwrthgyferbyniol' i'r categori y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Mae'r term yn dal i gael ei ddefnyddio gan rai, ond mae'n well gan lawer ddefnyddio'r termau 'traws' neu 'trawsryweddol'.
TRAWSNEWID
Y camau y bydd person traws yn eu cymryd o bosibl er mwyn byw yn y rhywedd maen nhw'n ei arddel. Bydd proses drawsnewid pawb yn golygu pethau gwahanol. I rai bydd yn golygu triniaeth feddygol o ryw fath, fel therapi hormonau a llawdriniaeth, ond nid pob person traws sy'n gallu nac yn dymuno cael triniaeth o'r fath. Gall trawsnewid hefyd olygu pethau fel dweud wrth ffrindiau a theulu, gwisgo'n wahanol a newid dogfennau swyddogol.
TRAWSWISGWR
Person sy'n gwisgo mewn dillad a gysylltir fel arfer â rhyw arall. Nid yw llawer o drawswisgwyr yn nodi eu bod yn drawsrywiol; maent yn gwisgo dillad nad ydynt fel arfer yn gysylltiedig â'u rhyw, ond efallai na fyddant yn uniaethu â rhyw gwahanol.
TYSTYSGRIF CYDNABOD RHYWEDD (GRC)
Mae'r dystysgrif hon yn galluogi pobl draws i gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'r rhywedd datganedig, ac i gael tystysgrif geni newydd. Fydd pob person traws ddim yn gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, ac ar hyn o bryd mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed er mwyn gwneud cais ac mae'n bosib newid eich marciwr rhywedd o wryw i fenyw, neu fenyw i wryw yn unig. Nid yw anneuaidd yn cael ei gydnabod ar hyn o bryd fel rhywedd ar GRC.
Does dim angen GRC arnoch chi er mwyn newid eich marciau rhywedd yn y gwaith nac i newid eich rhywedd yn gyfreithiol ar ddogfennau eraill fel eich pasbort. Nid yw byth yn briodol gofyn i berson trawsrywiol am GRC ac ystyrir ei fod yn anghyfreithlon am ei fod yn torri ei hawl i breifatrwydd. Unwaith y bydd person wedi cael GRC, dim ond os oes eithriadau penodol yn y gyfraith y gellir datgelu eu hanes rhywedd.
* Tynnwyd y cofnodion hyn o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Stonewall, ECU, GLAAD, Sefydliad LGBT.