Hawliau cyfreithiol mewn perthynas â chydraddoldeb traws: Trosolwg

Mae llawer o resymau dros hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, gan gynnwys y dadleuon moesol, moesegol a'r achos busnes dros wneud hynny.  Fodd bynnag, rhoddir cyfrifoldebau cyfreithiol hefyd i bob cyflogwr ac i unrhyw un sy'n gweithio iddynt i sicrhau bod eu staff yn cael eu hamddiffyn.  Dyma gyflwyniad byr i'r ddeddfwriaeth.

Gallwch ddisgwyl i Brifysgol De Cymru a sefydliadau partner eraill ddilyn y cyfreithiau a’r canllawiau hyn.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban.  Mae ailbennu rhywedd yn un o naw nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf.  Mae'r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd yn berthnasol i berson sy'n ‘bwriadu, wedi cychwyn neu wedi cyflawni proses (neu ran o broses) sydd â diben o ailbennu rhyw y person trwy newid nodweddion ffisiolegol neu nodweddion eraill sy’n ymwneud  â rhyw' (Deddf Cydraddoldeb, 2010).

Yn bwysig, dywed arweiniad technegol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) fod 'y broses o ailbennu rhywedd o dan y Ddeddf [Cydraddoldeb] yn broses bersonol ... yn hytrach na phroses feddygol. Mae'r warchodaeth yn berthnasol o'r foment y mae'r unigolyn yn nodi eu bwriad i gychwyn y broses ailbennu, hyd yn oed os byddant yn newid eu meddwl wedyn.  Nid yw'r ddeddf yn dweud bod angen i rywun gael triniaeth feddygol er mwyn cael ei ddiogelu' (EHRC, 2012).

Yn fyr mae'r Ddeddf yn diogelu'r bobl ganlynol.

  • Pobl traws yn cynnwys ymgeiswyr i a myfyrwyr mewn addysg ôl-ysgol ac uwch, cyn-fyfyrwyr, gweithwyr a chyn-weithwyr.
  • Pobl sy'n profi gwahaniaethu neu aflonyddu uniongyrchol oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn draws.
  • Pobl sy'n profi gwahaniaethu neu aflonyddu uniongyrchol oherwydd eu bod yn gysylltiedig â rhywun sydd â'r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd.  Er enghraifft, byddai'n diogelu rhieni/warcheidwaid person traws rhag cael eu gwahaniaethu neu eu haflonyddu oherwydd bod eu plentyn yn trawsnewid.
  • Pobl sy'n cael eu herlid oherwydd eu bod wedi mynnu eu hawliau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, wedi helpu rhywun arall i wneud hynny, neu'n cael eu hamau o wneud hynny neu'n bwriadu gwneud hynny.
  • Pobl sy'n dioddef gwahaniaethu anuniongyrchol o ganlyniad i ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a all ymddangos yn niwtral, ond mae ei effaith yn peri anfantais nad ystyrir ei bod yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon.  Er enghraifft, gallai polisi hollgynhwysfawr o beidio â newid enwau neu rywedd ar gofnodion myfyrwyr a staff achosi anfantais sylweddol i bobl trawsrywiol gan y bydd yn achosi anawsterau iddynt wrth iddynt wneud eu bywyd o ddydd i ddydd yn eu SAU neu eu coleg.

Mae'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn cwmpasu pob un o bedair gwlad y DU ac yn caniatáu i bobl traws wneud cais i'r panel cydnabod rhywedd i geisio cydnabyddiaeth gyfreithiol lawn o'u rhyw hunanadnabod.  Os yw deiliad GRC (Gender Recognition Certificate) llawn wedi cael ei eni wedi'i gofrestru yn y DU, bydd yn cael tystysgrif geni newydd nad yw'n datgelu'r ffaith y bu newid o'i ryw fel y'i cofnodwyd ar ei dystysgrif geni wreiddiol. Os yw genedigaeth person traws wedi’i gofrestru dramor bydd angen iddynt wneud cais am dystysgrif geni newydd o'r wlad y cawsant eu geni ynddi.  Fodd bynnag, nid yw pob gwlad yn cyhoeddi tystysgrifau geni newydd.

Yn hollbwysig, mae'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn rhoi hawliau preifatrwydd i bobl traws.  Mae unrhyw un sy'n caffael gwybodaeth bod person yn draws neu sydd â hanes traws mewn swyddogaeth swyddogol (yn ystod ei swydd, er enghraifft) yn agored i achos troseddol os ydynt yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i drydydd parti heb ganiatâd yr unigolyn.  Er enghraifft, gallai hyn fod fel aelod o staff mewn perthynas â myfyriwr.

Mae hefyd yn anghyfreithlon gofyn i berson am ei Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.

Nid oes angen Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) arnoch i gael eich trin fel eich rhywedd. Mae GRC yn ymdrin â newid y marciwr rhywedd ar dystysgrif geni yn unig. Mae canran fach iawn o'r gymuned drawsrywiol yn gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn berthnasol i bob un o bedair gwlad y DU ac mae'n amddiffyn pobl traws, yn bennaf o dan yr hawl i fywyd preifat (Erthygl 8).  Mae'r llysoedd wedi dehongli'r cysyniad ‘fywyd preifat' mewn ffordd eang iawn i gwmpasu, ymhlith pethau eraill, hawl person i fynegi hunaniaeth o ran rhywedd, i fyw ffordd arbennig o fyw ac i ddewis y ffordd y maent yn edrych ac yn gwisgo.

Mae hefyd yn golygu y dylai gwybodaeth bersonol (gan gynnwys cofnodion swyddogol, ffotograffau a llythyrau) gael ei chadw'n ddiogel ac na chaiff ei rhannu heb ganiatâd yr unigolyn dan sylw.  Yn ogystal, mae'r hawl i breifatrwydd yn nodi, oni bai bod awdurdod cyhoeddus yn gweithredu'n unol â'r gyfraith, na ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd os yw person yn arfer ei hawl i fywyd preifat.

Mae Erthygl 3 yn rhoi hawl i ryddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol.  Gall gael ei ddefnyddio i atal person traws rhag cael ei drin mewn modd diraddiol, er enghraifft, ei eithrio o gyfleusterau sy'n briodol i'w rhyw.

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, sy'n berthnasol i bob un o bedair gwlad y DU, mae statws traws ac ailbennu rhywedd yn 'ddata sensitif' at ddibenion y ddeddfwriaeth.  Felly, ni ellir cofnodi gwybodaeth sy’n ymwneud â statws person traws na'i throsglwyddo i berson arall oni bai bod amodau o dan Atodlen 3 o'r Ddeddf Diogelu Data ar gyfer prosesu data personol sensitif yn cael eu bodloni.  Mae'r rhain yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r angen i'r unigolyn gael caniatâd penodol i brosesu gwybodaeth.  Mae'r diffiniad o brosesu o dan y Ddeddf yn eang iawn ac mae'n cynnwys data a gwybodaeth mewn perthynas â chael, cofnodi neu gadw'r wybodaeth a'r data neu gyflawni unrhyw weithrediad arnynt.