Pam mae cynghreiriaid yn bwysig?
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn seiliedig ar arweiniad gan Stonewall Cymru, ECU, Trans*Form Cymru, GLAAD, ac ymgynghori â staff a myfyrwyr LHDTC+.
Gall cynghreiriaid helpu i newid y sgwrs a'r diwylliant. Gall pobl draws wynebu gwahaniaethu yn ddyddiol. Gall hyn fod yn anfwriadol (o bosibl oherwydd diffyg ymwybyddiaeth) ond gall hyn, a'r rhwystrau a achosir gan 'normau' diwylliannol sy'n ymwneud â rhywedd, wneud profiadau/rhyngweithiadau beunyddiol yn lletchwith, yn anodd ac yn flinedig i bobl drawsrywiol. Gall cynghreiriaid siarad allan a hyrwyddo cydraddoldeb traws pan nad ydynt yn teimlo'n ddigon cryf.
Gall pob unigolyn gymryd camau bychain i helpu i wneud diwylliant Prifysgol De Cymru yn fwy cynhwysol (e.e. defnyddio rhagenwau mewn llofnodion e-bost, sicrhau bod dogfennau'n defnyddio iaith niwtral o ran rhyw, addysgu ein hunain yn fwy, ac ati). Gall y gweithredoedd hyn, sy'n ymddangos fel mân-weithredoedd, gael effaith sylweddol ar unigolion a helpu cynyddu cynhwysiant.
Mae ymchwil yn dangos bod dros draean o fyfyrwyr traws mewn prifysgolion (36 y cant) wedi profi sylwadau neu ymddygiad negyddol gan staff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae un o bob saith o fyfyrwyr traws mewn prifysgolion (14 y cant) wedi ystyried gadael neu wedi gadael addysg uwch. oherwydd aflonyddwch neu wahaniaethu gan fyfyrwyr a staff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Am wybodaeth bellach, gweler Adroddiad LGBT in Britian Trans Stonewall.
Mae ymchwil gan ECU hefyd yn dangos bod hunaniaeth rhywedd yn ffactor yn y dewis o brifysgol ar gyfer 23.7 y cant o fyfyrwyr traws (2009) a bod prifysgolion sydd ag enw da am fod yn draws gyfeillgar yn gweld niferoedd uwch o staff a myfyrwyr traws.
Cynghreiriad traws yw unrhyw berson sy'n cefnogi pobl drawsrywiol ac sy'n hyrwyddo cydraddoldeb traws. Gallwch fod yn gynghreiriad, gall unrhyw un, cymerwch olwg ar ein fideo o awgrymiadau da ac adnoddau eraill i ddysgu mwy.
Mae'r Prosiect Straight for Equality wedi cynhyrchu canllaw cynhwysfawr ar fod yn gynhreiriad traws. Maent yn nodi pedwar prif rinwedd cynghreiriaid, yn archwilio'r daith y mae pobl yn mynd arni i fod yn gynghreiriad ac yn mynd i'r afael â rhai pryderon sydd gan bobl am gydraddoldeb traws (e.e. gwneud camgymeriadau).
Yn seiliedig ar ymchwil gan fyfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion ledled yr Alban, mae'r fideos hyn yn dangos beth sydd gan fyfyrwyr i'w ddweud am fod yn y brifysgol a'r gwahanol agweddau maen nhw'n delio â nhw:
Ar ddiogelwch personol:
Ar gael eu camryweddu:
Ar ddefnyddio toiledau:
Myfyrwyr traws yn esbonio'r hanfodion am hunaniaeth o ran rhywedd a ffyrdd o gefnogi eraill:
Mae rhagor o adnoddau, fideos a chysylltiadau i sefydliadau ac arweiniad ar gael ar Cymorth i Bobl Traws ac Adnoddau.
Os hoffech, gallwch hefyd adduno i gefnogi pobl traws yn ymgyrch Stonewall Cymru
Dewch Allan dros Gydraddoldeb Traws.