Mae yna nifer o fannau astudio distaw, astudio tawel ac astudio grŵp ar bob campws:
Archebu Gofod Astudio
Bydd angen i chi archebu lle astudio cyn y gallwch ei ddefnyddio. Gweler tudalen Connect2 Llyfrgell PDC i gael mwy o fanylion.
Benthyciadau Cyfleusterau ac Offer Arbenigol
Gellir archebu offer i'w gasglu o Storfeydd Benthyciadau Offer eich Cyfadran, Ardal Gynghori, neu Ddesg Gwybodaeth a Gwasanaethau yn llyfrgell eich campws.
Mae rhywfaint o offer cyfryngau ar gael i'w ddefnyddio'n
gyffredinol, fodd bynnag, mae offer mwy arbenigol ar gael ar gyfer cyrsiau
penodol yn unig ac efallai y bydd angen hyfforddiant cynefino.
Disgwylir i chi gadw at reolau'r Brifysgol, a pharchu'r offer a'r eiddo gan
roi ystyriaeth ddyledus bob amser. Gellir delio ag unrhyw gamymddwyn honedig yn
unol â'r gweithdrefnau a nodir yn rheoliadau'r Brifysgol sy'n llywodraethu
ymddygiad myfyrwyr. Sicrhewch eich bod
yn gadael yr ystafell / stiwdio yn y cyflwr y dewch o hyd iddynt ar gyfer y
defnyddiwr nesaf.