Marchnadfa

Beth sy'n unigryw am y farchnadfa?

Mae'r Farchnadfa yn ofod myfyrwyr ar UniLife a ddefnyddir i brynu a gwerthu eitemau, chwilio am/cynnig llety, a phostio hysbysiadau hysbysebu elusennau, cymdeithasau neu waith ymchwil rydych chi'n ymwneud â nhw.  Gellir defnyddio'r farchnad ar gyfer trafodion ar raddfa fach, a/neu wasanaethau sy’n cynhyrchu enillion achlysurol.

  • Ni ddylid defnyddio’r farchnadfa ar gyfer gwerthu alcohol neu gynhyrchion tybaco nac ar gyfer gwerthu eitemau ffug. Ni chaniateir hysbysebu alcohol mewn ffordd anghyfrifol e.e. cynigion a digwyddiadau mewn tafarndai/clybiau/lleoliadau.
  • Ni ddylai eitemau penodol gael eu hailwerthu, na'u hailwerthu am elw unwaith y maent wedi'u prynu e.e. tocynnau rheilffordd neu rai tocynnau theatr.
  • Ni chaniateir i fyfyrwyr na staff werthu bwyd ar y campws (gan gynnwys digwyddiadau codi arian elusennol a gwerthiannau pobi).  
  • Nid yw'r farchnadfa wedi'i bwriadu ar gyfer hysbysebu busnes neu brif ffynhonnell incwm.  Ni chaniateir cwmnïau na chynhyrchion megis cynlluniau pyramid, cynlluniau marchnata a chyfeirio aml-lefel sy'n addo nwyddau neu arian am ddim.
  • Fel sefydliad amlddiwylliannol, mae'r Brifysgol yn dathlu amrywiaeth ac anogir myfyrwyr i ddangos parch at holl Aelodau'r gymuned.  Rhaid i eitemau a bostiwyd drin pobl eraill yn deg, gydag urddas a pharch ac ni ddylent beri tramgwydd na bod o natur sensitif.
  • Peidiwch â phostio eitemau jôc na defnyddio'r farchnadfa fel safle i ddod o hyd i gariad. Bydd yr hysbysebion hyn yn cael eu cymedroli.
  • Cofiwch allgofnodi o UniLife bob amser gan y gallwch gael eich dal yn gyfrifol am unrhyw weithgaredd ar eich cyfrif UniLife (hyd yn oed os bydd rhywun arall yn defnyddio'ch cyfrif i chwarae jôc ymarferol). 
  • Gweler Rheoliadau Cyfrifiadura TG.

Er nad yw'r rhestri'n cael eu cymedroli cyn eu cyhoeddi, mae'r botwm 'Report this ad to a moderator’ yn fflagio’r hysbyseb y gellir ei dileu yn ôl disgresiwn y tîm UniLife.

Nid yw'r Brifysgol yn cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eitemau na thrafodion ar y farchnadfa.  Dylech bob amser fod yn ymwybodol o'ch arian, eich eiddo a'ch diogelwch, ac os ydych chi'n trefnu i gyfarfod gwnewch hynny mewn man diogel, cyhoeddus.

Nodyn am hysbysebu rhannu fflatiau Yn aml caiff hysbysebion rhannu fflatiau gael eu fflagio ar gyfer cymedroli, gan fod hysbysebion sy'n nodi dewisiadau diwylliannol yn uniongyrchol yn gallu peri tramgwydd.  Nid yw'r Brifysgol yn rhagnodi sut mae pobl yn arwain eu bywydau personol, a gall myfyrwyr ddewis byw gydag eraill yn seiliedig ar ddiwylliannau a rennir, credoau, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran.

Sut rydym yn cymedroli hysbysebion lle cwynir am wahaniaethu. Rydym yn tybio y caiff hysbysebion eu postio gan denant sy'n chwilio am gyd-denant(iaid).

Derbyniwn y byddai'n well gan rai myfyrwyr fyw mewn fflatiau un rhyw.  Yn gyffredinol, nid yw hysbysebion sy'n nodi dewis rhyw ar gyfer darpar rannwyr yn cael eu dileu.

Nid yw hysbysebion sy'n nodi hil ddewisol neu liw croen, neu sy'n benodol neu'n ymhlyg yn tynnu sylw at un grŵp o fyfyrwyr yn annymunol yn dderbyniol.

Mae hysbysebion sy'n gwahaniaethu'n gadarnhaol tuag at un grŵp yn ddiofyn neu'n gwahaniaethu'n negyddol yn erbyn grwpiau eraill yn annerbyniol.

Gall hysbysebion sy'n nodi ffafriaeth i fyfyrwyr o gefndir penodol fod yn dderbyniol os yw'n debygol y bydd gwahaniaethau diwylliannol/ymddygiadol/ieithyddol rhwng y grŵp hwnnw, a gall myfyriwr gyfiawnhau'n rhesymol yr awydd i fyw gyda'r rhai o gefndir a rennir.

Ni ddylai hysbysebion fod yn rhy negyddol o ran tôn neu oblygiad.