Gwybodaeth Modiwl a Chwrs

Os yw unrhyw wybodaeth am eich cwrs neu'ch modiwl yn anghywir, rhowch wybod i'r Brifysgol cyn gynted â phosibl. Gall y newidiadau gymryd hyd at ddau ddiwrnod gwaith i'w prosesu ac i w gweld ar UniLife.


Gall y system rheoli'r cwricwlwm eich helpu i gael dealltwriaeth fanwl o'ch cwrs a chynnwys eich modiwl.  Gallwch chwilio am fanylebau modiwlau a chwrs a gallwch hefyd argraffu PDF o’r manylebau gofynnol.

Mae’r opsiwn Chwilio drwy’r Cyrsiau yn caniatáu i chi restru'r holl fodiwlau sy'n cael eu hargymell neu sy'n ddewisol i'w cwblhau'n llwyddiannus ar gyfer y cwrs hwnnw.

Mae'r opsiwn Chwilio drwy’r Modiwlau yn cynnig mynediad i'r disgrifyddion modiwl llawn:

  • Nodau'r modiwl
  • Crynodeb o gynnwys y modiwl
  • Dulliau addysgu
  • Canlyniadau Dysgu
  • Gofynion Asesu
  • Rhestr Ddarllen Ddangosol Gryno
  • Sgiliau Allweddol a gyflwynir gan y Modiwl hwn
  • Manylion Dilysu

Gall y wybodaeth hon eich helpu i benderfynu pa lyfrau i ymgyfarwyddo â nhw a chael dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i lwyddo yn y modiwl.  Mae hefyd yn arbennig o ddefnyddiol wrth baratoi CV neu ffurflen gais, gan fod angen gwneud yn aml i gyflogwr posibl fod yn ymwybodol o'r sgiliau a'r profiadau allweddol yr ydych wedi'u hennill drwy'ch cwrs a'ch amser yn y brifysgol.

Mae gwybodaeth fy nghwrs neu fodiwl yn anghywir.

Os ydych chi wedi cysylltu â'r Brifysgol ond mae gwybodaeth anghywir yn dal i ddangos ar UniLife, gallwch gael mynediad i'ch cofnod myfyriwr personol yn uniongyrchol. Mae hwn yn dangos y wybodaeth ddiweddaraf.  (Mae yna oedi o hyd at 24 awr rhwng diweddariadau i'ch cofnod a'r dangosiad o fewn UniLife).

Mae'n bwysig bod gan y Brifysgol gofnod cywir o'r cwrs yr ydych wedi ymrestru arno a'r modiwlau yr ydych yn eu hastudio.  Defnyddir y wybodaeth hon ar gyfer amrywiaeth eang o bwrpasau, o fynediad i’ch Amgylchedd Dysgu Rhithwir, i negeseuon e-bost eich tiwtor a hyd at amserlenni arholiadau.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod Cofnod y brifysgol o'ch astudiaethau yn gywir.

Nid yw cytuno ar newidiadau gyda'ch tiwtor yn ddigon.  Rhaid i chi gadarnhau'r newidiadau gyda'ch Ardal Gynghori a sicrhau bod y newidiadau hynny'n cael eu hadlewyrchu yn Eich Cyfrif, gan y bydd hyn yn dangos bod eich cofnodion academaidd wedi cael eu diweddaru.

Cadarnhau newidiadau

Gofyn am ddiwygiadau i'ch cwrs a gwybodaeth am fodiwlau drwy gyrchu Ardal Gyngor Ar-lein a chodi cwestiwn newydd.