Mae'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) yn agored i fyfyrwyr israddedig y flwyddyn olaf a dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud am eich profiad yn y brifysgol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym sut rydych yn teimlo y gellid gwella pethau.
Mae’r NSS yn arolwg blynyddol a gydnabyddir yn genedlaethol o israddedigion blwyddyn olaf yn y DU. Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi eu barn ar yr hyn yr oeddent yn ei hoffi am eu hamser yn y Brifysgol yn ogystal â'r pethau y teimlent y gellid bod wedi'u gwella.
Gweinyddir yr arolwg gan Ipsos, asiantaeth ymchwil i'r farchnad annibynnol, felly erys atebion yn ddienw bob amser.
Ar gyfer pob myfyriwr sy'n cwblhau'r arolwg ar-lein, bydd y Brifysgol yn rhoi £1 i'w helusennau dewisol sef Brynawel Rehab.
Mae 10 gwobr o werth £100 o dalebau Amazon i'w dyfarnu ar hap i 10 myfyriwr sy'n ymuno â raffl yr arolwg ar-lein cyn hanner nos ar 30 Ebrill 2025.
Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu drwy e-bost o ddiwedd mis Mai 2025 ar ôl i'r arolwg gau.
Gallwch ddod o hyd i'r arolwg NSS ar-lein yn www.thestudentsurvey.com
Bydd arweinydd eich cwrs yn siarad â chi ymlaen llaw am yr arolwg. Ar neu o gwmpas y 5 Chwefror, byddwch yn derbyn e-bost gwahoddiad i gwblhau'r arolwg gan Ipsos. Yn ddiweddarach, cysylltir drwy'r post neu dros y ffôn â'r rhai nad ydynt wedi ymateb i’r e-bost.
Cyhoeddir canlyniadau'r NSS i helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a beth i'w astudio. Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr hefyd yn defnyddio'r data i nodi meysydd o gryfderau a gwendidau. Mae hyn yn galluogi'r Brifysgol i ganolbwyntio ymdrechion ar wella’r profiad myfyriwr i genedlaethau'r dyfodol o fyfyrwyr.
Mae data o arolygon blaenorol ar gael ar Darganfod Prifysgo.
Mae eich ymateb yn ddienw, fel y gall eich atebion adlewyrchu eich canfyddiadau dilys o'ch profiad. Nid oes angen poeni bod eich manylion cyswllt yn cael eu trosglwyddo; dim ond at ddibenion yr NSS y cânt eu defnyddio ac fe’u dinistrir yn fuan wedi hynny.
Neges gan y Is-Ganghellor
"Fy enw i yw Ben Calvert a fi yw’r Is-Ganghellor yma yn PDC.
"Un o brif agweddau fy rôl yw sicrhau ein bod yn darparu profiad rhagorol i'n holl fyfyrwyr; mae'r adborth a gawn yn ystod yr arolwg hwn yn eithriadol o bwysig ac mae'n ein helpu i ddeall ble rydym yn gwneud yn dda a ble y dylem wella. Mae'r cwestiynau'n ymwneud â'ch profiad dros gyfnod eich astudiaethau a chewch gyfle i fwydo'n ôl ar feysydd allweddol gan gynnwys yr addysgu, asesu ac adborth a'r cymorth academaidd yr ydych wedi'i brofi drwy gydol eich amser fel myfyriwr.
"Diolch am gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg."