Cwrs i'ch helpu i baratoi ar gyfer astudio neu barhau â'ch astudiaethau.
Bydd Paratoi i Ddysgu yn eich cyflwyno i'r offer y byddwch yn eu defnyddio i gynorthwyo eich dysgu a rhoi trosolwg o'r gwasanaethau cymorth a fydd yn hanfodol er mwyn i chi gael y gorau o'ch cwrs.
Ewch at dudalen Paratoi i Ddysgu cyn i chi ymrestru, er mwyn ymgyfarwyddo â gweithgareddau ac adnoddau a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Pan fyddwch wedi sefydlu eich cyfrif TG PDC a chwblhau’r broses o ymrestru ar-lein, bydd gennych fynediad i'r Cwrs byr ‘Paratoi i Ddysgu’ ar Blackboard. Gallwch ymweld â'r cwrs Paratoi i Ddysgu ar unrhyw adeg, ond byddem yn eich annog i'w gwblhau cyn i chi ddechrau’ch cwrs.
Tra’n astudio ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn defnyddio amrywiaeth o dechnolegau dysgu. Cyfeiriwn at y rhain fel Unilearn. Yn ogystal â’r Cwrs Byr Paratoi i Ddysgu, gallwch gael gafael ar yr holl arweiniad sydd ei angen arnoch ar gyfer yr offer Unilearn ar wefan gwasanaethau TG y Brifysgol.
Ar ôl cofrestru, dylech ganiatáu hyd at 48 awr cyn cael mynediad i'r cwrs.
Mae gan y cwrs elfennau craidd a dewisol. Dylai cwblhau'r elfennau craidd gymryd tua 1.5-2.5 awr. Rydym yn argymell eich bod yn archwilio rhai elfennau dewisol defnyddiol. Bydd y cwrs yn cymryd mwy o amser os byddwch chi'n dewis gwneud hyn.
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro o amgylch yr adrannau canlynol (mae pob adran isod yn rhoi hyd bras o’r amser y bydd yn ei gymryd):
I gael mynediad i'r cwrs yn gyntaf bydd angen i chi fewngofnodi i Blackboard gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr (e.e. [email protected]) a'ch cyfrinair:
Ac yna, llywio i Trefniadaeth y Cwrs ‘Paratoi i Ddysgu’ o dan “Fy Nghyfundrefnau” neu “My Organisations” (yn ddibynnol ar osodiadau eich pecyn iaith yn eich gosodiadau personol).
Pan fyddwch chi'n barod i ddechrau, archwiliwch yr adran Cyflwyniad i’r Cwrs cyn symud ymlaen i weddill y cwrs. Sylwch: ar rai dyfeisiau gall y ddewislen ar y chwith gael ei chuddio yn ddiofyn. Cliciwch y bar glas cul ar ochr chwith eich sgrin, neu'r eicon > ger y chwith uchaf ar sgriniau bach, i ddangos y ddewislen. Defnyddiwch y ddewislen ar yr ochr chwith i lywio'ch ffordd trwy'r cwrs. Rydym yn argymell dechrau gyda “Defnyddio Unilearn”.
Os oes gennych broblemau wrth gyrchu'r cwrs hwn, neu unrhyw ran o'r cynnwys ynddo, cysylltwch â Cymorth TG.