Hyfforddi Academaidd Personol (PAC)

Fel israddedigion blwyddyn gyntaf byddwch yn cael hyfforddwr academaidd personol a all eich helpu i gynllunio eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol.

Mae eich PAC yn cefnogi eich cynnydd cyffredinol, yn hytrach na chanolbwyntio ar aseiniadau neu fodiwlau unigol.  Gallant hefyd eich cyfeirio at gymorth ar faterion ariannol, iechyd neu broblemau eraill.

Byddwch yn:

  • Cael Hyfforddwr Academaidd Personol yn ystod y cyfnod cynefino a fydd yn academydd o'ch maes pwnc chi.
  • Cael cyfarfodydd unigol 20 munud gyda'ch PAC tua diwedd tymor yr Hydref a Thymor y Gwanwyn.
  • Trafod eich cynnydd academaidd, ymgysylltiad â’r cwrs a dyheadau gyrfaol.
  • Cytuno ar gynllun gweithredu i wneud y gorau o'ch potensial.
  • Trafod unrhyw faterion cyffredinol a allai fod gennych.

Rydym yn disgwyl i chi:

  • Mynychu'r cyfarfodydd a drefnwyd, a bod yn barod i siarad yn agored am sut mae pethau'n mynd.
  • Dod ag unrhyw raddau ac adborth yr hoffech eu trafod.
  • Paratoi ar gyfer y cyfarfod drwy fyfyrio ar eich cynnydd academaidd a sut i wneud y gorau o'ch potensial.
  • Cwblhau a dilyn cynllun gweithredu, y byddwch chi a'ch hyfforddwr yn cadw copi ohono.

Cyfrinachedd

Bydd y cyfarfodydd gyda'ch PAC a'ch cynlluniau gweithredu fel arfer yn gyfrinachol oni bai eich bod yn caniatáu iddynt gael eu rhannu.  Fodd bynnag, os byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol sy'n achosi pryder i'ch PAC, er enghraifft os oes perygl o niwed difrifol i chi neu i bobl eraill neu os oes goblygiad cyfreithiol, yna o dan ddyletswydd gofal y PAC bydd yn rhaid iddynt gynnwys cymorth arall adrannau fel y bo'n briodol.