Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi derbyn adroddiadau anecdotaidd bod rhai anifeiliaid anwes wedi cael gofal gwael, ac mewn rhai achosion, mae anifeiliaid anwes hyd yn oed wedi cael eu gadael gan fyfyrwyr ar ôl i'w cyrsiau ddod i ben. Peidiwch â chael anifail anwes tra byddwch chi'n fyfyriwr. Os ydych eisoes yn berchen ar anifail anwes, meddyliwch yn ofalus iawn cyn penderfynu mynd ag ef i'r brifysgol gyda chi.
Ni chaniateir anifeiliaid anwes mewn neuaddau myfyrwyr. Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid preifat hefyd yn gwahardd cadw anifeiliaid anwes. Hyd yn oed os byddwch yn symud i lety sy'n caniatáu anifeiliaid anwes, mae gofalu am anifail yn ymrwymiad mawr nad yw'n gydnaws â bywyd myfyriwr.
I'r rhai sy'n caru anifeiliaid ond nad ydynt yn gallu cadw rhai eu hunain, mae yna rai cyfleoedd i brofi cwmnïaeth anifeiliaid dros dro.
Mae Borrow My Doggy yn ap sy'n cysylltu perchnogion cŵn â phobl a fyddai'n hoffi gofalu am/chwarae â chŵn o bryd i'w gilydd, ond sydd ddim yn gallu cynnig cartref parhaol i gi.
Mae Maethu Anifeiliaid Dros Dro yn opsiwn os yw eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu anifeiliaid anwes, ond ni allwch gadw anifeiliaid anwes yn barhaol.