Diweddariad: Dydd Iau 27 Ebrill 2023
Mae Prifysgol De Cymru yn cychwyn ar brosiect i ddisodli porth myfyrwyr presennol UniLife, gyda datrysiad Ready Education o'r enw MyDay. Mae'r prosiect yn rhan o'n rhaglen i wella’r wefan, a'i nod yw creu siop un stop i fyfyrwyr, tra'n gwella ymarferoldeb a phrofiad myfyrwyr. Bydd y prosiect yn cynnwys ailgynllunio'r porth presennol, ynghyd â datblygu nodweddion ac offer ychwanegol sy'n addas ar gyfer apiau ar ddyfeisiau symudol a’r we.
Mae gan y porth presennol, UniLife, sawl cyfyngiad, megis, dyluniad a chynllun sydd wedi dyddio o'i gymharu â'r hyn y byddai myfyriwr sefydliad cyfoes yn ei ragweld. Er enghraifft, nid oes unrhyw rybuddion na chynnwys all-lein gan nad oes nodwedd ap symudol.
Bydd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys symud o UniLife, i lwyfan newydd MyDay. Bydd hyn yn rhoi’r un gallu i fyfyrwyr ar lwyfan newydd, mwy hygyrch. Bydd yr ail gam yn cynnwys datblygu'r porth ymhellach yn unol ag ymgynghori ac adborth mwy helaeth gan fyfyrwyr.
Mae tîm prosiect wedi'i sefydlu ac maent ar hyn o bryd yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gwblhau cam cyntaf y sefydlu yn MyDay, i fyfyrwyr a staff ei adolygu. Cyn cwblhau cam un, mae tîm y prosiect yn chwilio am farn myfyrwyr, drwy'r ymgynghoriad hwn, sef arolwg dienw, gyda'r nod o gasglu adborth myfyrwyr ynghylch profiad defnyddwyr cyfredol.
Hoffem glywed am eich profiad defnyddiwr personol cyfredol wrth ddefnyddio UniLife a sut mae'n effeithio ar eich profiad fel myfyriwr. Hefyd, hoffem wybod os yw'r porth yn diwallu eich anghenion, a darparu mynediad at y cymorth, dysgu, gwybodaeth ac anghenion eraill sydd gennych fel myfyriwr.
Rydym yn rhagweld y bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Ni ofynnir i chi wneud unrhyw beth arall ar ôl i chi gyflwyno eich arolwg gorffenedig oni bai eich bod am dderbyn diweddariad neu wybodaeth am gyfleoedd yn y dyfodol i'n helpu. Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol, a gallwch stopio ar unrhyw adeg os ydych chi'n newid eich meddwl.
Bydd eich barn yn cyfrannu at ddyluniad a defnyddioldeb porth myfyrwyr newydd ar ôl iddo gael ei weithredu.
Cwblha'r arolwg Ymgynghoriad Myfyrwyr Gwaelodin. Dydd Iau 25 Mai 2023 yw'r dyddiad cau.
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolwg hwn, cysylltwch ag Aaron Parry, Uwch Reolwr Trawsnewid.