Mae presenoldeb yn hanfodol i lwyddiant academaidd a dylech riportio unrhyw absenoldeb i adran gywir y Brifysgol. I fyfyrwyr rhyngwladol, gall methu â mynychu arwain at golli eu fisa.
Absenoldebau
Mae presenoldeb yn bwysig iawn, fodd bynnag, os oes yn rhaid i chi fethu rhai o'ch gweithgareddau ar yr amserlen, dyma beth sydd angen i chi ei wneud:
- Ar gyfer absenoldebau o lai na 10 diwrnod gwaith e-bostiwch arweinydd eich cwrs a / neu arweinwyr eich modiwl.
- Ar gyfer absenoldebau o 10 diwrnod neu fwy, gofynnwch am ganiatâd i fod yn absennol.
- Os gallai eich absenoldeb effeithio ar eich perfformiad academaidd, dylech ddarllen am Amgylchiadau Esgusodol rhag ofn y bydd angen i chi wneud cais. Dylech hefyd hysbysu'ch Ardal Gynghori.
- Mewn rhai achosion, gall myfyrwyr ofyn am doriad ar astudio am flwyddyn.
Presenoldeb
Beth sydd ynddo i mi?
Mae ymchwil sy'n cymharu perfformiad ymhlith myfyrwyr o wahanol lefelau presenoldeb wedi dangos y buddion canlynol:
Beth rydych chi'n ei golli trwy beidio â bod yn y dosbarth
I'r gwrthwyneb, dangoswyd bod presenoldeb gwael yn peri risgiau difrifol i berfformiad myfyrwyr:
- Graddau uwch.
- Mwy o siawns o basio asesiadau.
- Cyfleoedd i wella sgiliau personol a sgiliau meddal.
- Ymgyfarwyddo â barn eraill, sy'n helpu i lunio'ch dadleuon / gwybodaeth.
- Yr haf cyfan i ymlacio: dim ailsefyll!
Beth rydych chi'n ei golli trwy beidio â bod yn y dosbarth
I'r gwrthwyneb, dangoswyd bod presenoldeb gwael yn peri risgiau difrifol i berfformiad myfyrwyr:
- Graddau gwaelach.
- Peryglon uwch o fethu.
- Gwybodaeth gyfyngedig o ddeunyddiau cwrs: ni all Blackboard efelychu'r mewnbwn hanfodol gan diwtoriaid yn y dosbarth yn llawn.
- Tebygolrwydd uwch o orfod ail-sefyll gwaith cwrs a / neu arholiadau yn yr haf.
- Cyfleoedd is o gwblhau o fewn tair blynedd ac o ganlyniad mwy o ddyled ac ôl-effeithiau ariannol.
- Gall y Brifysgol dynnu myfyrwyr yn ôl am ddiffyg ymgysylltiad ar eu cwrs, gan gynnwys diffyg presenoldeb.
- Os ystyrir bod eich ymgysylltiad â'r Brifysgol yn anfoddhaol, bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi, o'r Broses Diffyg Ymgysylltu.
Monitro presenoldeb ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, nad yw'n rhan o'r UE, sy'n astudio ar fisa Haen 4, bydd gofyn i chi adrodd yn rheolaidd i'r Brifysgol er mwyn i'r Brifysgol allu cadarnhau i'r Swyddfa Gartref eich bod yn cymryd rhan weithredol yn eich astudiaethau.
Gweler monitro presenoldeb fisa Haen 4 am wybodaeth.