Fel myfyriwr PDC rydych yn rhwym wrth reolau'r brifysgol ac yn ei dro mae gan y Brifysgol gyfrifoldebau i chi. Ffurfiolwyd y berthynas hon gan:
Rheoliadau – rheolau y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu dilyn;
Polisïau – egwyddorion y mae PDC wedi’u mabwysiadu sy'n llywio ein penderfyniadau a'n gweithredoedd;
Gweithdrefnau – y prosesau PDC swyddogol ar gyfer gwneud pethau.
Mae'r Brifysgol yn cynhyrchu ystod o bolisïau a chyhoeddiadau allweddol i gefnogi a llywio ein hymchwil, ein haddysgu a'n gweithgareddau proffesiynol, a darparu diweddariadau ar weithgareddau a pherfformiad y Brifysgol.