Ailadrodd Rhan o'ch Cwrs - Goblygiadau Ariannu

Gall goblygiadau ariannu ailadrodd rhan o'ch cwrs fod yn sylweddol ac yn gymhleth.  Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch darparwr cyllid myfyrwyr eich bod yn ailadrodd ac, yn dibynnu ar y rheswm yr ydych yn ailadrodd a'ch hanes academaidd personol, efallai y bydd hyn yn effeithio ar y cymorth ariannol a gewch ar gyfer eich ail flwyddyn.

Os ydych eisoes wedi cael eich cyllid myfyriwr wedi ei gymeradwyo ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ac na allwch wneud newidiadau i'ch cais am gyllid ar-lein, yna efallai y bydd angen i chi ofyn i Dîm Cofnodion Myfyrwyr y Brifysgol gyflwyno ‘newid mewn amgylchiadau’ i'ch darparwr cyllid ar eich rhan – gall hyn gynnwys tâl ffioedd dysgu gwahanol.
Bydd eich darparwr cyllid yn darparu arweiniad pellach yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol. Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich darparwr, neu os hoffech gyngor pellach yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.

Ar gyfer pwy mae'r dudalen hon

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i fyfyrwyr o Gymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon sy'n ymgymryd â chyrsiau amser llawn i israddedigion sy'n gymwys i wneud cais am gyllid statudol y llywodraeth gan y darparwr Cyllid Myfyrwyr perthnasol (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru).

Nid yw'r wybodaeth yn berthnasol i:

  • myfyrwyr o'r Alban, a ddylai ofyn am gyngor gan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban (0300 555 0505)
  • y rheini sy'n cael bwrsariaeth GIG, a ddylai gysylltu ag Uned Dyfarniadau’r GIG (029 21 500 400).
  • myfyrwyr ôl-raddedig, a ddylai gysylltu â'u darparwr cyllid yn uniongyrchol – gweler yr adran 'Cysylltiadau Defnyddiol' isod.

Hawl 'blwyddyn ychwanegol'

Yn gyffredinol, fel arfer, mae gan fyfyrwyr cymwys nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o astudio ar lefel addysg uwch cyn iddynt ddechrau ar eu cwrs presennol hawl i gael cymorth ariannol drwy gydol eu cwrs presennol yn ogystal â blwyddyn arall.  Mae'r ‘flwyddyn ychwanegol' yn darparu rhwyd diogelwch, os bydd angen i'r myfyriwr ymestyn hyd ei gwrs, efallai oherwydd ei fod yn gorfod ailadrodd blwyddyn.  Fodd bynnag, ni ddylech ddibynnu ar hyn nes eich bod wedi trafod eich amgylchiadau personol gyda'ch darparwr.

Rhesymau Personol Cymhellol (CPR)

Os ydych yn ailadrodd eich cwrs oherwydd yr hyn y mae eich darparwr cyllid yn ei ystyried yn 'resymau personol cymhellol' (CPR) (e.e. amgylchiadau meddygol neu brofedigaeth), yna mae gan y darparwr cyllid ddisgresiwn i ddarparu blwyddyn ychwanegol o gyllid myfyrwyr.

Ni ddylai'r CPR gael ei gymysgu ag amgylchiadau esgusodol. Os yw'r Brifysgol wedi caniatáu i chi gael amgylchiadau esgusodol, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd y darparwr cyllid hefyd yn derbyn unrhyw dystiolaeth CPR a gyflwynir gennych. Os yw'ch darparwr yn derbyn eich tystiolaeth, yna nid oes rhaid i chi ddefnyddio eich hawl 'blwyddyn ychwanegol' yn ystod y flwyddyn ailadrodd hon.  Ar yr amod nad ydych wedi defnyddio eich 'blwyddyn ychwanegol' o'r blaen, yna gellir defnyddio hon, os oes angen, yn nes ymlaen yn eich cwrs.

Fodd bynnag, os nad ydych yn cael CPR ac nad yw eich blwyddyn arall yw eich ‘blwyddyn ychwanegol’ a grybwyllir uchod, yna mae'n debygol yr effeithir ar eich hawl i gael cymorth gyda ffioedd dysgu a grant cynhaliaeth (os yw'n berthnasol) yn ystod eich blwyddyn ailadrodd – felly bydd angen ystyried opsiynau cyllid amgen, gan gynnwys y posibilrwydd o newid y modd astudio.

Os hoffech gymorth i gyflwyno eich tystiolaeth CPR, neu os ydych yn edrych ar opsiynau ariannu eraill, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.

Mynychu cwrs amser llawn ar sail rhan-amser

Os ydych chi'n dilyn cwrs amser llawn, ac ar ryw adeg yn ystod eich cwrs mae angen i chi ailadrodd nifer o gredydau/modiwlau ac felly'n gwneud llai na gwerth blwyddyn academaidd lawn o gredydau (120 credyd fel arfer e.e. 6 modiwl sy'n werth 20 credyd yr un), byddech fel arfer yn parhau i gael eich cofrestru fel myfyriwr amser llawn gan eich bod yn parhau ar yr un cwrs astudio.  Mae hyn wedyn yn eich galluogi i gael eich ystyried ar gyfer cymorth myfyrwyr amser llawn gan eich darparwr cyllid ar gyfer y tymhorau rydych chi yn bresennol.  Ni ddylech fod wedi ymrestru fel myfyriwr rhan-amser, oni bai eich bod am drosglwyddo i ddull astudio rhan-amser yn barhaol.  Cysylltwch â Cofnodion Myfyrwyr i weld a oes modd i chi gael Llythyr y Dreth Gyngor yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych yn ymgymryd â thraethawd hir yn unig yn ystod blwyddyn academaidd, yna efallai y bydd eich corff cyllido yn ystyried eich bod yn anghymwys i gael cymorth myfyrwyr, oherwydd diffyg presenoldeb.

Cysylltiadau defnyddiol

Cyllid Myfyrwyr Cymru – 0300 200 4050
Cyllid Myfyrwyr Lloegr – 0300 100 0607
Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon – 0300 100 0077
Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban – 0300 555 0505
Uned Dyfarniadau GIG Cymru – 02921 500 400
Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr PDC