Ar gyfer myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau preswyl, mae'r Brifysgol yn darparu bagiau ailgylchu a gwastraff gweddilliol, y dylid eu gosod yn y gorsafoedd ailgylchu priodol yn y ceginau. Mae compowndiau gwastraff ar gael ar draws y neuaddau ac mae codau lliw arnynt yn unol â'r biniau yn y ceginau.
Sbwriel ac Ailgylchu - eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod sbwriel yn cael ei waredu'n gywir. Gall peidio â gwneud hynny gythruddo cymdogion, denu fermin a chael dirwy gan eich cyngor lleol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar eich dyddiadau casglu unigol o wefan eich cyngor lleol.
Rhondda Cynon Taf:
Cyngor Caerdydd:
Cyngor Dinas Casnewydd:
Dylech rwygo neu ddinistrio gwastraff papur sy'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol fel eich enw a'ch cyfeiriad a'ch cyfriflenni banc.
Eitemau mawr i’w casglu - gall eich cyngor lleol gasglu eitemau mawr yn y cartref yn rhad ac am ddim trwy drefniant ymlaen llaw.
Gallwch ailgylchu sbectolau diangen trwy Vision Aid Overseas, elusen yn y DU sy'n ymroddedig i helpu pobl yn y byd sy'n datblygu gyda golwg gwael ar y llygaid.