Gofyn am Lythyr Statws Myfyriwr - mae Llythyr Statws Myfyriwr yn eich galluogi i roi cadarnhad o'ch statws fel myfyriwr cofrestredig yn y Brifysgol.
Myfyrwyr UNAF - gellir gofyn am Lythyrau Statws Myfyriwr gan [email protected].
Gofyn am Lythyr y Dreth Gyngor – gelwir Llythyr y Dreth Gyngor hefyd yn Dystysgrif Eithrio'r Dreth Gyngor. Mwy o wybodaeth –Lythyr y Dreth Gyngor
I wneud cais am lythyr banc, ewch i'r Ardal Gynghori Ar-lein (angen manylion mewngofnodi) a chwiliwch am "llythyr banc[GA1] " Gweler y fideo mewn man arall ar y dudalen gyfredol am gyfarwyddiadau cam wrth gam.
Mae angen llythyr banc ar fyfyrwyr rhyngwladol i agor cyfrif banc myfyriwr. Mae’r llythyr banc yn cadarnhau’r cwrs a’r flwyddyn yr ydych wedi cofrestru arno, hyd y cwrs, y dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen disgwyliedig y cwrs, a’r cyfeiriad cartref a thymor sydd gan y Brifysgol ar eich cyfer.
Mae’r dudalen Banciau a Chyfrifon Banc yn egluro manteision cael cyfrif banc yn y DU, sut i ddewis un, a pha ddogfennaeth arall y gallai fod ei hangen.
(Gall myfyrwyr cartref agor cyfrif banc gyda'u llythyr statws myfyriwr).
Gellir gwneud cais am lythyrau sy'n ymdrin â blynyddoedd blaenorol a mathau eraill o lythyrau, gan gynnwys Llythyrau Cynllun Tocyn Tymor Blynyddol Gostyngol a Llythyrau Fisa Schengen gan ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein.