Undeb y Myfyrwyr

SU- Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli’r myfyrwyr i’r Brifysgol
- Mae'n annibynnol ar y brifysgol, ond mae'n agos iawn iddi
- Mae wedi'i gofrestru fel elusen ac fel busnes
- Mae'n rhedeg sawl lleoliad i fyfyrwyr PDC
- Mae'n cynnal timau chwaraeon, clybiau a chymdeithasau PDC

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn aml yn cael ei alw'n "UM", "Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru" neu "UMPDC". Mae'n gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Cael y gorau o UMPDC

Mae Undeb Myfyrwyr PDC yn eich cynrychioli chi, yn eich helpu i wneud ffrindiau Newydd ac yn cynnal timau chwaraeon. Mae gan yr undeb lefydd bwyta, yfed a chymdeithasu yn ystod y dydd a'r nos a hefyd yn cynnig cyfleoedd gwaith.

Mae Undeb Myfyrwyr PDC yn annog pob myfyriwr i gymryd rhan naill ai fel rhan o Gyngor y Myfyrwyr, fel Cynrychiolydd Academaidd, aelod o dîm chwaraeon, clwb neu gymdeithas, neu drwy wirfoddoli.

Mae mwy am Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru i'w weld ar www.uswsu.com

Strwythur yr Undeb

Mae’r Undeb yn bodoli er lles y myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru, a byddwch yn dod yn aelod yn awtomatig pan fyddwch yn cofrestru ar eich cwrs. Os nad ydych am fanteisio ar bopeth sydd gan yr Undeb i’w gynnig, yna gallwch dynnu’ch enw oddi ar y gofrestr trwy gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr.

Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n ymwneud â phenderfynu sut mae'r Undeb yn cael ei redeg yn fyfyrwyr etholedig. Mae’r cyfle hyn ar gael i bob aelod o’r Undeb trwy Ras Arweinyddiaeth flynyddol Undeb y Myfyrwyr.


Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr

Mae tri myfyriwr etholedig ar Fwrdd llywodraethu’r Undeb. Nhw sy'n gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg fel y dylai. Y Bwrdd sy’n gwneud yr holl benderfyniadau lefel uchaf.


Swyddogion amser llawn

Mae 4 swydd sy'n derbyn tâl amser llawn i gynrychioli myfyrwyr:

  • Llywydd
  • Is-Lywydd Swyddog Addysg
  • Is-Lywydd Swyddog Llesiant
  • Is-Lywydd Swyddog Gweithgareddau
Mae'r swyddi hyn yn para 1 flwyddyn gyda'r opsiwn i ail-redeg am uchafswm o 2 flynedd.

Swyddi Etholedig Di-dâl

Mae amryw o swyddi Cyngor Myfyrwyr a Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn rhan o strwythur cynrychioliadol yr Undeb.

Lleoliadau ac Adloniant

Mae gan Undeb y Myfyrwyr siopau, bariau, caffis a lleoliadau nos ar draws y campysau. Maent ar agor drwy gydol y flwyddyn academaidd. Am amseroedd a lleoliadau penodol, ewch yma

Timau Chwaraeon PDC

Mae holl dimau a chlybiau chwaraeon Prifysgol De Cymru yn cael eu rhedeg gan UMPDC.

Os ydych chi'n chwarae i safon resymol, rhowch gynnig ar un o'r timau cystadleuol sy'n cynrychioli'r Undeb a'r Brifysgol yn rhaglen Cynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).  Caiff timau eu dewis ar ddechrau pob blwyddyn academaidd ac yna eu hyfforddi a chwarae'n wythnosol, o fis Hydref i fis Mai.  Yn gyfnewid am ffi aelodaeth, mae'r Undeb yn darparu'r holl chwaraewyr gyda cit, hyfforddwyr cymwys, cludiant i gemau, swyddogion gemau a chymorth cyntaf mewn gemau cartref, offer yswiriant cynhwysfawr a chymorth gweinyddol.  Mae cyfle i gael eich dewis ar gyfer ochr prifysgolion Cymru a/neu Brydain.