Mae Learning Analytics yn system ar y we y gall myfyrwyr ei defnyddio i gofrestru ar gyfer rhai darlithoedd, tiwtorialau a digwyddiadau. Mae'r Brifysgol yn defnyddio Learning Analytics i olrhain presenoldeb a sawl mesur arall o ymgysylltiad myfyriwr.
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol ddefnyddio Learning Analytics i gofrestru ar gyfer y rhan fwyaf o'u darlithoedd neu'r cyfan ohonynt - gweler Monitro Presenoldeb ac Ymgysylltu ar gyfer Myfyrwyr Fisa Haen 4.
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr eraill gofrestru gan ddefnyddio Learning Analytics hefyd - bydd eich darlithydd yn rhoi gwybod i chi.
Mae'r fideo hwn yn dangos y broses gofrestru yn fanylach:
Mae cwrs Learning Analytics ar Blackboard hefyd os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Mae'r botwm ‘My Timetable’ ar Learning Analytics yn dangos unrhyw ddigwyddiadau y mae'r system wedi’u trefnu i chi eu mynychu, heddiw neu'r diwrnod canlynol. Nid yw'n dangos yr holl amserlen o ddigwyddiadau yn y dyfodol. I weld hynny, edrychwch ar eich Calendr Outlook.