Gwybodaeth a Chymorth gydag Asesiadau

Gwiriwch eich amserlen asesiadau'n ofalus gan y gall asesiadau fod ar y campws neu ar-lein. Mae manylion eich tasgau asesu ar eich safle modiwl ar Blackboard. 

Er mwyn eich galluogi i gadw i fyny ag unrhyw newidiadau i derfynau amser asesiadau, mewngofnodwch yn rheolaidd i Blackboard, i weld y wybodaeth ddiweddaraf a bostiwyd gan eich cyfadran.

Mae asesiad â chyfyngiad amser yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio asesiad y mae'n rhaid ei gwblhau o fewn amserlen gyfyngedig. Er enghraifft, rhyddheir y cwestiynau ar amser a dyddiad penodol ac mae'n rhaid eu hateb o fewn cyfnod penodol ac yna eu llanlwytho i BlackBoard fel y cyfarwyddir yn eich tasg asesu. Weithiau cyfyngir y cyfnod i nifer o oriau. 

Gallai asesiad â chyfyngiad amser a ddefnyddir fel dewis amgen ar gyfer arholiad traddodiadol fod yn wahanol i'r arholiad yr oeddech chi'n disgwyl ei sefyll. Er enghraifft, addaswyd y nifer o oriau y byddech wedi eu cael mewn neuadd arholi /labordy ac ati i ddarparu ar gyfer yr angen i gwblhau tasgau mewn amgylchedd ar-lein. 

Strwythur yr asesiad â chyfyngiad amser 

Mae strwythur yr asesiad â chyfyngiad amser ar-lein yn debygol o fod yr un fath neu'n debyg iawn i strwythur y papur arholiad y byddech fel arall wedi'i gwblhau..

Er enghraifft, faint o adrannau y rhennir y papur iddo, a faint o gwestiynau ym mhob adran y mae disgwyl ichi eu hateb. Dilynwch y strwythur yn union fel y’i nodwyd. Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl ofynion yn ofalus gan na fydd pob modiwl yn dilyn yr un fformat. 

Rydym yn sylweddoli y gallai fod materion technegol a allai eich atal rhag cyflwyno'ch gwaith. Peidiwch â chynhyrfu os yw hyn yn digwydd, ond dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

Anawsterau technegol wrth gyflwyno asesiad

Os ydych chi'n profi materion technegol sy'n eich atal rhag cyflwyno'ch gwaith, yna mae'n rhaid i chi:

  • Cipiwch dystiolaeth trwy dynnu sgrin lun/llun o'r broblem.
  • Logiwch alwad gyda Desg Gymorth Gwasanaethau TG cyn y dyddiad cau.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cod y Modiwl a’r ymadrodd ‘assessment submission error’.
  • Gwnewch nodyn o gyfeirnod yr alwad.
  • Ar ôl logio’r broblem, e-bostiwch y gwaith at yr arweinydd modiwl perthnasol, gan gynnwys cyfeirnod yr alwad a logiwyd os yn bosibl.
  • Ar yr amod bod y broses uchod yn cael ei dilyn, bydd eich gwaith yn cael ei dderbyn a'i farcio.

Sylwch, heb sgrin lun, ac e-bost dilynol at eich arweinydd modiwl, ymdrinnir â’ch gwaith fel gwaith heb ei gyflwyno.


Anawsterau technegol yn ystod asesiadau â chyfyngiad amser ar-lein - amseroedd cychwyn a gorffen sefydlog

Os ydych chi'n profi materion technegol yn ystod asesiad â chyfyngiad amser ar-lein gydag amser cychwyn a gorffen penodol a bod y materion technegol hyn yn effeithio ar eich gallu i gwblhau'r asesiad o fewn y ffrâm amser, yna mae'n rhaid i chi:

  • Log a call with the IT Services Helpdesk
  • Gwneud nodyn o gyfeirnod yr alwad.
  • Rhoi gwybod i’ch Arweinydd Modiwl am yr anawsterau a brofwyd a rhoi gwybod iddynt am gyfeirnod yr alwad TG. Rhaid gwneud hyn cyn pen 24 awr o ddyddiad cau'r asesiad.  
  • Yna bydd yr arweinydd modiwl yn adolygu'r achos i benderfynu a yw'n bosibl ail-osod yr asesiad neu a oes datrysiad arall. 




Anawsterau technegol yn ystod asesiad â chyfyngiad amser ar-lein - cyfnod amser penodol tymor hwy

Os ydych chi'n profi materion technegol yn ystod asesiad â chyfyngiad amser arlein, y mae’n rhaid ei gwblhau o fewn cyfnod amser penodol tymor hwy, a bod y materion technegol hynny wedi effeithio ar eich gallu i gwblhau'r asesiad o fewn yr amserlen neilltuedig, yna mae'n rhaid i chi: 

Os na allwch ddilyn y prosesau uchod oherwydd anawsterau technegol, cysylltwch â'r Ardal Gynghori i gael cyngor.


Paratoi ar gyfer asesiad 

Os oes gennych chi faterion technegol sy'n effeithio ar eich paratoadau ar gyfer asesiad, dylid cyflwyno hawliad amgylchiadau esgusodol unigol, gyda thystiolaeth ategol fel sgrinluniau a chyfeirnod galwad, yn dilyn y broses arferol.  

Cyflwyno dysgu ar-lein 

Os bydd toriad trydan yn y Brifysgol yn effeithio ar ddarparu dysgu ar-lein am ran o sesiwn, dylai'r aelod staff academaidd a myfyrwyr allgofnodi a mewngofnodi drachefn o fewn cyfnod o 15 munud. 

Os yw toriad trydan yn y Brifysgol yn effeithio ar ddarparu dysgu ar-lein ar gyfer sesiwn gyfan, rhaid i'r aelod staff academaidd naill ai aildrefnu'r sesiwn neu ei chyflwyno mewn fformat arall.