Togetherall

Mae Togetherall yn blatfform llesiant digidol lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd yn ddienw i wella iechyd meddwl a lles. Mae Togetherall am ddim i holl fyfyrwyr PDC ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae Togetherall yn cael ei safoni’n glinigol gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac mae’n cynnig lle diogel a dienw i fyfyrwyr archwilio’ch teimladau a meddwl am bethau.

Nodweddion sydd ar gael yn Togetherall

  • Cysylltu ag eraill sy'n profi meddyliau a theimladau tebyg
  • Mynegi eich hun yn greadigol trwy luniadau neu eiriau
  • Cadw golwg ar feddyliau a theimladau yn eich dyddlyfr eich hun
  • Nodi a gweithio tuag at eich nodau ac olrhain eich cynnydd
  • Cymryd rhan mewn cyrsiau ar-lein lle gallwch chi sgwrsio ag eraill a rhannu awgrymiadau ar yr hyn sy'n gweithio.

Sut gallwch chi ddefnyddio Togetherall

Cymuned

Mae Togetherall yn cynnig cymuned ddienw i chi rannu sut rydych chi'n teimlo, gwrando a chael eich clywed. Mae'r gymuned hefyd yn cynnig y cyfle i chi gefnogi eraill a phrofi manteision rhoi cymorth.

Cyrsiau

Gallwch ddod o hyd i gyrsiau sy'n benodol i'ch pryderon a dysgu technegau i reoli'ch iechyd meddwl yn rhagweithiol.

Adnoddau

Mae Togetherall yn cynnig amrywiaeth o offer, hunanasesiadau ac erthyglau sy’n eich helpu i ddeall sut rydych chi’n teimlo.

Mae yna hefyd adnoddau i olrhain eich cynnydd, gan gynnwys dyddlyfr ac offer olrhain nodau.

Sut i ymuno

Mae gan holl fyfyrwyr PDC fynediad i gymorth iechyd meddwl a lles ar-lein am ddim gyda Togetherall. I ymuno, ewch i Togetherall.com a:

  • Dewis ‘Join’
  • Dewis ‘I’m from a university of college’
  • Rhoi eich cyfeiriad e-bost myfyriwr.

Byddwch yn cofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost myfyriwr, ond bydd eich proffil yn ddienw drwy ddewis enw defnyddiwr, sef sut rydych yn cael eich adnabod ar Togetherall.

Cyflwyno Togetherall

Stori Aelod Myfyriwr Togetherall