Mae campysau Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd i gyd yn agos i orsafoedd trenau. Ar gyfer lleoliad, gwybodaeth am amserau trenau, tocynnau a diweddariadau teithio, ymwelwch â National Rail Enquiries.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 16 oed ac mewn addysg amser llawn neu o dan 26 oed ac mewn addysg rhan-amser. Am fwy o wybodaeth ewch i Trafnidiaeth Cymru.
Os nad oes rhaid i chi deithio bum gwaith yr wythnos, efallai y bydd yn rhatach i brynu tocynnau diwrnod gostyngol.
Ar gael i bobl 16-25 oed a myfyrwyr dros 26 oed sydd mewn addysg amser llawn. Am fwy o wybodaeth ewch i Cerdyn Rheilffordd 16 i 25.
Mae isafswm pris £12 yn ystod oriau brig yn golygu y byddai'r cerdyn hwn ond yn cynnig arbedion i chi os ydych yn cymudo pellter sylweddol, neu os yw eich darlithoedd yn dechrau'n gynnar. Gall fod yn ddefnyddiol o hyd os ydych yn teithio pellteroedd hwy yn rheolaidd.
Ar gael i bobl 26-30 oed, bydd y Cerdyn Rheilffordd National Rail 26-30 yn arbed 1/3 i chi oddi ar ystod eang o docynnau. Am fwy o wybodaeth, ewch i Cerdyn Rheilffordd 26 i 30.