Trosglwyddo Cyrsiau

Efallai eich bod wedi penderfynu eich bod wedi dewis y cwrs anghywir i'w astudio.  Peidiwch â phoeni, gan fod llawer o fyfyrwyr sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon.

Cais am drosglwyddo ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf

Mae'r broses ar gyfer gofyn am drosglwyddo yn eithaf syml, ond cofiwch nad oes sicrwydd bydd eich cais yn cael ei dderbyn - yn enwedig os nad ydych wedi pasio'ch blwyddyn astudio gyfredol neu nad oeddech yn ymgysylltu'n llawn â'r cwrs rydych yn ei wneud ar hyn o bryd.  Rydym yn argymell eich bod yn trafod eich penderfyniad gyda'ch arweinydd cwrs presennol a'r Ardal Gynghori yn y lle cyntaf, er mwyn i chi allu gwneud dewis cwbl wybodus.

Dylai myfyrwyr sy'n astudio mewn Colegau Partner, Sefydliadau Partner neu UNICAF gysylltu â'u cyswllt cwrs arferol.

Os hoffech wneud cais am drosglwyddo ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd angen i chi gwblhau cais newydd. Gallwch gyrchu'r ddolen ymgeisio drwy'r dudalen cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddi, cliciwch Sut i Wneud Cais, a dewis y dyddiad cychwyn a'r dull astudio priodol. Yna bydd eich cais yn cael ei ystyried gan y Tîm Derbyn.

Os nad ydych chi'n bwriadu cwblhau'r flwyddyn academaidd gyfredol ar y cwrs rydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer, rydym yn argymell eich bod yn tynnu’n ôl o'ch cwrs.  Mae croeso i chi ailymgeisio am y flwyddyn academaidd nesaf.  Rhaid i ni eich hysbysu fodd bynnag, nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich derbyn ar yr un cwrs eto.  Gallwch gyrchu'r ddolen ymgeisio drwy'r dudalen cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddi, cliciwch Sut i Wneud Cais, a dewis y dyddiad cychwyn a'r dull astudio priodol. Yna bydd eich cais yn cael ei ystyried gan y Tîm Derbyn.  Cyn cymryd y camau terfynol i gwblhau’r broses hon, byddem yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'ch Awdurdod Addysg Lleol/Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn ogystal ag Uned Refeniw y Brifysgol a'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr a all roi arweiniad i chi o ran sut y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar eich ffioedd dysgu cyfredol, benthyciadau myfyrwyr ac unrhyw ysgoloriaethau/bwrsariaethau neu grantiau rydych yn eu derbyn.

Mae'n bwysig nodi os byddwch yn gofyn am drosglwyddo i gwrs amgen ond eich bod yn cael eich tynnu’n ôl o'ch astudiaethau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, NA fydd y trosglwyddo yn mynd yn ei flaen.

Cais am drosglwyddo yn ystod y flwyddyn academaidd

Mae enghreifftiau lle y gallech drosglwyddo cyrsiau yn ystod y flwyddyn.  Yn y lle cyntaf, siaradwch â'r Ardal Gynghori i weld a yw hyn yn bosibl.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, bydd unrhyw drosglwyddo hefyd yn effeithio ar eich fisa myfyrwyr. A fyddech cystal â sicrhau eich bod yn cael cyngor cywir gan ein hadran  Mewnfudo a Chyngor Myfyrwyr, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus.

Cofiwch, os nad ydych chi'n siarad â ni, allwn ni ddim eich helpu chi!

Unrhyw gwestiynau?

Gallwch ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein i ofyn cwestiynau i ni, neu ddarllen un o'r nifer o Gwestiynau Cyffredin: