Mae Troi PDC yn Wyrdd yn ap ar y we sy'n eich gwobrwyo â 'Phwyntiau Gwyrdd' am gamau amgylcheddol cadarnhaol sy'n eich helpu i fyw bywyd mwy cynaliadwy a helpu PDC i gyrraedd ei tharged carbon niwtral erbyn 2040.
Ar gyfer pob cam a gymerwch byddwch yn ennill 'Pwyntiau Gwyrdd' ac yn cystadlu ar sgorfwrdd gyda'ch cydweithwyr, cyd-fyfyrwyr ac adrannau cyfan.
Bob mis byddwn yn gwobrwyo unigolion sydd â’r mwyaf o bwyntiau gyda 4 x taleb £20 o amryw o opsiynau, gan gynnwys talebau sinema, Marks & Spencer a Thocynnau Llyfrau Cenedlaethol. Ar gyfer y timau sy'n perfformio orau bob mis bydd rhodd elusennol o £200 yn cael ei rhoi bob tymor.
Gwyliwch fideo Troi PDC yn Wyrdd isod i gael gwybod mwy.
Chwiliwch am 'Turn USW Green' yn siop ap eich dyfais neu cliciwch y dolenni isod:.
Lawrlwytho 'Turn USW Green' ar gyfer Android neu 'Turn USW Green' ar gyfer iOS.