- Yn UniLearn (Blackboard), dylech berthyn i Drefniadaeth Cwrs. Bydd y drefniadaeth hon yn cynnwys pob myfyriwr ar bob blwyddyn o'ch cwrs.
- Dylai pob cwrs PDC gael gwybodaeth ddigonol, gywir a pherthnasol ar UniLearn.
- Er mwyn sicrhau hyn, mae'r Brifysgol yn gosod safonau penodol y dylai Trefniadaeth Cwrs yn UniLearn eu cyrraedd neu ragori arnynt.
Rhaid i holl gyrsiau PDC ddarparu safon ofynnol o ran gwybodaeth i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gywir a pherthnasol am eu hastudiaethau.
Bydd y wybodaeth hon ar gael drwy sefydliad UniLearn y cwrs, a dylai gynnwys o leiaf y canlynol:
- Eich Llawlyfr Cwrs
- Gwybodaeth am Gynrychiolwyr eich Cwrs
- Gwybodaeth am Dîm eich Cwrs
- Manylion cyswllt eich tîm addysgu
- Gwybodaeth am ble y gallwch fynd i gael cymorth anacademaidd
- Gwybodaeth am arholwyr allanol
- Cyfathrebu ar draws eich cwrs, gan gynnwys: cyhoeddiadau, fforymau trafod, e-bost, a Blackboard Collaborate
- Cysylltiadau â rheoliadau myfyrwyr (e.e. rheoliadau cyfryngau cymdeithasol)
- Taflenni clawr a chanllawiau adborth
- Ymatebion i adborth myfyrwyr am y cwrs
Dylai pob modiwl unigol o fewn sefydliad y cwrs gynnwys hefyd:
- Disgrifiad o'r modiwl
- Manylion am sut a phryd yr asesir y modiwl
- Rhestr o sut y caiff eich modiwl ei gyflwyno, gyda chrynodeb o'r gweithgareddau yn ôl wythnos neu bwnc
- Deunyddiau dysgu cyfoes
- Rhestr ddarllen ar-lein
- Ffurflenni gwerthuso modiwlau
Ddwywaith y flwyddyn, cewch gyfle hefyd i roi adborth am eich cwrs gydag arolwg gwerthuso.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am safonau a pholisïau gofynion sylfaenol PDC drwy ymweld â’r Ganolfan Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu.