UniLife yw porth myfyrwyr PDC, sy'n dwyn ynghyd wefannau a gwasanaethau myfyrwyr amrywiol.
Mewngofnodwch i’r UniLife gyda'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr a'ch cyfrinair :http://unilife.southwales.ac.uk
Cynhwysir adnoddau astudio allweddol, gan gynnwys dolenni i Blackboard, adnoddau llyfrgell, Cymorth TG a botwm "Amserlen Addysgu" sy'n mynd â chi'n uniongyrchol i'ch calendr gyda'ch amserlen bersonol.
Cysylltiadau i’r Ardal Gynghori Ar-lein (AZO), system cymorth myfyrwyr ar-lein y Brifysgol. Mae AZO yn cynnwys Cwestiynau Cyffredin (FAQs) neu gallwch ofyn eich cwestiwn eich hun ac archebu apwyntiadau gyda gwasanaethau cymorth arbenigol.
Mae Eich Post yn mynd â chi i'ch cyfrif e-bost myfyriwr Outlook.
Mae Eich Storfa yn caniatáu ichi storio ffeiliau ar-lein gan ddefnyddio Microsoft One Drive.
Mae Eich Cyfrif yn caniatáu ichi wirio a diweddaru gwybodaeth bersonol (e.e. eich cyfeiriad a'ch modiwlau cwrs), gweld eich cyfrif llyfrgell ynghyd ag unrhyw ddyledion prifysgol sy'n ddyledus.
Mae Gwneud Taliad yn cysylltu i’ch cyfrif cyllid.
Cadwch yn gyfredol gyda’r hyn sy’n digwydd yn PDC.
Mae’r Farchnadfa yn caniatáu ichi bostio hysbysiadau i fyfyrwyr eraill. Am ragor o wybodaeth a chanllawiau, gweler y cofnod Marchnadfa yn A-Y UniLife.
Nodweddion eraill UniLife:
UniLife heb fewngofnodiad UniLife
Mae'r rhan fwyaf o ardaloedd UniLife ac eithrio'r dudalen gartref a rhai tudalennau cyfrif-benodol yn hygyrch heb fewngofnodiad myfyriwr.
Beth os nad yw UniLife yn gweithio
Ar yr adegau prin pan fydd hyn yn digwydd, edrychwch ar y dudalen Statws TG am ddiweddariadau a gwybodaeth bellach.