Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd yr holl ddefnyddwyr. Mae Polisi Preifatrwydd a Chwcis y Wefan yn manylu ar y camau mae'r Brifysgol yn eu cymryd i sicrhau hyn.
Mae’r hawlfraint yn y parth southwales.ac.uk a'i is-barthau cysylltiedig (y Wefan) a’u cynnwys yn eiddo i Brifysgol De Cymru, wedi'i drwyddedu iddo, neu'n cael ei reoli gan Brifysgol De Cymru, gwaeth a yw symbol a datganiad hawlfraint yn bresennol ai peidio. Wrth gyrchu'r wefan rydych yn cytuno dim ond i lawrlwytho unrhyw gynnwys ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol eich hun. Fel arall, ni chaniateir i chi storio, copïo, llawrlwytho, nac ymyrryd â chynnwys y wefan heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol Prifysgol De Cymru.
Mae Prifysgol De Cymru yn gwneud pob ymdrech i gydymffurfio â Chyfraith Hawlfraint. Os oes gennych sail dros gredu y gallai deunyddiau ar y wefan dresmasu ar hawlfraint un arall, rhowch wybod i'r Swyddog Cydymffurfiaeth Gwybodaeth fel y gellir dileu'r deunyddiau wrth ymchwilio i'r mater.
Nid yw Prifysgol De Cymru yn gyfrifol am gynnwys, argaeledd nac ansawdd y deunydd a gynhwysir ar safleoedd allanol. Mae defnyddwyr yn gyfrifol am gydymffurfio â thelerau ac amodau defnyddio unrhyw safleoedd allanol.
Mae'r wefan yn defnyddio nifer o wasanaethau allanol i ddarparu mwy o ymarferoldeb. Mae defnyddwyr yn gyfrifol am gydymffurfio â thelerau ac amodau defnyddio unrhyw wasanaethau allanol.
Mae rhai ffurflenni ar-lein ar ein gwefan yn cael eu pweru gan ffurflenni WuFoo. Ewch i www.wufoo.com/privacy/ am fanylion eu polisi preifatrwydd.
Cedwir a phrosesir yr holl fanylion personol a ddarperir ar ffurflenni o'r fath gan Brifysgol De Cymru yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi gwefannau a ddarperir gan Google, Inc. ("Google"). Mae Google yn gwmni hysbysebu, chwilio a gwasanaethau gwe amlwladol, gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl yn ymwneud â phreifatrwydd a Google Analytics ar eu tudalen Preifatrwydd Dadansoddeg, a gwybodaeth preifatrwydd, diogelwch a thelerau ac amodau mwy cyffredinol ar eu tudalennau Polisïau ac Egwyddorion a Telerau Gwasanaeth Google.
Gwasanaethau Gwe Allanol Eraill
Rhai o'r gwasanaethau gwe allanol eraill mae'r wefan yn defnyddio ac yn gosod cynnwys ohonynt yw YouTube, Survey Monkey, Vimeo, Trydar, Facebook a Bitly.