Mae'r dudalen hon yn cynnig cyngor ar bethau i'w hystyried a ble i gael cymorth os ydych chi'n ystyried tynnu'n ôl o'ch astudiaethau. Mae hefyd yn amlinellu'r broses o dynnu'n ôl os byddwch chi'n penderfynu gwneud hynny.
Efallai eich bod yn ystyried gadael y brifysgol am nifer o resymau, ond efallai y bydd opsiynau neu bethau eraill i'w hystyried cyn i chi gymryd y cam olaf hwnnw.
Am gymorth unigol â'r pwnc hwn, cysylltwch â'r Ardal Gynghori neu trefnwch apwyntiad gydag un o wasanaethau arbenigol y Brifysgol.
Cyn tynnu'n ôl mae'n rhaid i chi ddychwelyd unrhyw eiddo Prifysgol sydd gennych ar fenthyg fel llyfrau llyfrgell neu offer TG.
Unwaith i'ch cais i dynnu'n ôl gael ei brosesu, byddwch yn colli mynediad i'ch cyfrif TG Prifysgol a'r holl adnoddau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys eich cyfrif e-bost myfyriwr ac unrhyw storfa rithiol sy'n gysylltiedig ag ef e.e. OneDrive.
Mae'n bwysig felly eich bod yn gwneud copïau o unrhyw e-byst a dogfennau yr hoffech eu cadw cyn cyflwyno eich cais.
Rhaid gwneud ceisiadau i dynnu'n ôl drwy'r Ardal Gynghori Ar-lein.
Bydd gofyn i chi ddewis y rheswm dros dynnu'n ôl o'r opsiynau a ddangosir yn y tabl isod.
Rheswm dros dynnu'n ôl |
---|
Trosglwyddais i sefydliad arall. |
Rwy'n profi anawsterau gyda fy Iechyd Meddwl (cafwyd diagnosis o gyflwr iechyd meddwl). |
Rwy'n profi anawsterau gyda fy Iechyd Meddwl (dim diagnosis). |
Cefais brofiad o iechyd corfforol gwael |
Mae gennyf anawsterau ariannol |
Ni all fy nghyflogwr cynning cefnogaeth ariannol |
Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd cydbwyso cyflogaeth ac astudio |
Dechreuais swydd. |
Cefais fy niswyddo. |
Dwi ddim eisiau dweud |
Cefais anhawster i gydbwyso cyfrifoldebau gofalu. |
Roedd gen i broblemau perthynas. |
Bu farw ffrind/perthynas. |
Materion cyfreithiol |
Dewisais y cwrs anghywir. |
Ni chyflawnodd y cwrs fy nisgwyliadau. |
Roedd y llwyth gwaith academaidd yn rhy drwm i mi. |
Teimlais nad oedd gennyf y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y cwrs. |
Ni chefais fy ysgogi i fynychu. |
Ni chefais ddigon o gefnogaeth academaidd ac adborth. |
Teimlais fod y cwrs yn anhrefnus. |
Nid oedd digon o addysgu wyneb yn wyneb. |
Nid oedd digon o addysgu ar-lein. |
Roedd gen i broblemau llety. |
Nid oedd yr amserlenni yn ddigon hyblyg ar gyfer fy anghenion. |
Roedd diffyg gweithgarwch cymdeithasol. |
Roeddwn yn hiraethu am adref. |
Pob Myfyriwr - Rhaid i bob myfyriwr lanlwytho tystiolaeth e-bost sy'n dangos eu bod wedi rhoi gwybod i'w Arweinydd Cwrs / Hyfforddwr Academaidd Personol / Tiwtor personol am eu penderfyniad i dynnu'n ôl.
Nyrsio a Bydwreigiaeth - Rhaid i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth hefyd ddarparu tystiolaeth bod arweinydd eu cwrs wedi cymeradwyo eu cais i dynnu'n ôl.
Myfyrwyr Rhyngwladol - Rhaid i fyfyrwyr yn y DU ar fisa astudio gofyn am gyngor mewnfudo ar eu cais i dynnu'n ôl, a lanlwytho e-bost yn dangos y cyngor a roddwyd.
Byddwch yn cael cadarnhad bod eich cais wedi ei'i dderbyn ac yn cael ei brosesu drwy'r Ardal Gynghori Ar-lein.
Y dyddiad effeithiol ar gyfer tynnu'n ôl o astudiaethau yw'r dyddiad y derbynnir eich Ffurflen Cais (ynghyd ag unrhyw dystiolaeth angenrheidiol) gan Yr Ardal Gynghori Ar-lein.