Ysmygu ar y campws

  • Gwaherddir ysmygu y tu mewn i adeiladau a'r tu allan ger mynedfeydd a ffenestri
  • Mae hyn yn cynnwys sigaréts electronig

Ein hegwyddorion

Mae'r Brifysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) 2007.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod pryd mae person yn ysmygu neu beidio, yn fater o ddewis personol, ond mae lleoliad lle maent yn ysmygu yn ddarostyngedig i’r rheoliadau.

Y Rheolau

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i'r defnydd o sigaréts electronig (e-sigs), vaporizers personol neu systemau darparu nicotin electronig yn ogystal â sigarennau, sigârs a phibellau.

Gwaherddir ysmygu drwy gydol adeiladau a cherbydau'r brifysgol. Mae'r gwaharddiad hefyd yn cael ei ymestyn i fynedfeydd adeiladu a gerllaw adeiladau, yn enwedig lle mae ffenestri cyfagos.

Dilynir gweithdrefnau perthnasol y Brifysgol yn sgil diffyg cydymffurfio parhaus.

Helpu i roi'r gorau i ysmygu

Mae gwybodaeth a chyngor i helpu i roi'r gorau i ysmygu ar gael drwy wasanaeth iechyd y Brifysgol yn ogystal â thrwy'r GIG a meddygfeydd meddygon teulu a thrwy Dim Smygu Cymru.