Yr Ardal Gynghori Ar-lein yw system cymorth myfyrwyr ar-lein PDC, siop un stop ar gyfer eich holl ymholiadau. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth mewn Cwestiynau Cyffredin, gofyn eich cwestiwn eich hun neu drefnu apwyntiadau gyda nifer o wasanaethau cymorth arbenigol.
Mewngofnodwch i’r Ardal Gynghori Ar-lein gyda'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr a'ch cyfrinair gan ddefnyddio'r botwm isod:
Os ydych wedi cofrestru neu newid eich manylion personol yn ddiweddar, gall gymryd hyd at 24 awr cyn y gallwch fewngofnodi i’r Ardal Gynghori Ar-lein.
Mae’r Ardal Gynghori Ar-lein yn ei gwneud hi'n haws nag erioed dod o hyd i atebion i'ch cwestiynau. Gallwch bori categorïau a dewis pwnc i weld yr holl gwestiynau cysylltiedig neu chwilio gan ddefnyddio geiriau allweddol.
Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn, gallwch 'gofyn cwestiwn' yn y ddewislen ar y chwith. Anfonir eich cwestiwn yn awtomatig at 'dîm' cywir y Brifysgol ac anfonir e-bost atoch, yn gofyn ichi fewngofnodi i'r system, pan fydd eich cwestiwn wedi'i ateb.
Mae'ch cwestiynau'n cael eu storio'n ddiogel yn yr Ardal Gynghori Ar-lein sy'n eich galluogi i chwilio ac olrhain ymholiadau cyfredol a blaenorol. Os nad yw'ch ateb wedi'i ddatrys, mae’r Ardal Gynghori Ar-lein yn ei gwneud hi'n haws rhyngweithio â staff a dod o hyd i'r ateb rydych chi'n edrych amdano.
Mae’r Datganiad Preifatrwydd yr Ardal Gynghori Ar-lein yn dweud wrthych pa wybodaeth y gellir ei chasglu wrth i chi ddefnyddio'r system, a sut mae eich preifatrwydd a'ch diogelwch data yn cael eu gwarchod.