Gofyn Cwestiwn
Gallwch ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein ar unrhyw adeg i 'Ofyn Cwestiwn', a bydd yn anfon neges atom.
Byddwn yn ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) ac anfonir hysbysiad i’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr, felly gwiriwch y cyfeiriad e-bost hwnnw'n rheolaidd.
Apwyntiadau
Defnyddiwch yr Ardal Gynghori Ar-lein i drefnu apwyntiadau gyda gwasanaethau cymorth arbenigol PDC. Os nad ydych yn siŵr pa apwyntiad sydd ei angen arnoch, neu os nad ydych yn gallu cael mynediad i'r Ardal Gynghori Ar-lein, cysylltwch â'r Ardal Gynghori a fydd yn gallu trefnu apwyntiad ar eich rhan.
01443 482540 (9.00am - 4.30pm, Llun - Gwener)
Mae Ardal Gynghori ar y Campws ar bob un o bedwar prif gampws y Brifysgol. Galwch heibio i siarad ag aelod o staff.
Oriau agor:
8.30am - 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Mae Ardal Gynghori Caerdydd yn CAA008, yn union y tu mewn i fynedfa'r Llyfrgell yn yr Atriwm.
Glyntaff Advice Zone is in GT L001, inside the entrance of the Library in Lower Glyntaff.
Mae Ardal Gynghori Casnewydd yn NCC CB10C yn y Llyfrgell ar Gampws Casnewydd.
Mae Ardal Gynghori Trefforest yn TRL125, y tu mewn i Lyfrgell Trefforest a’r Ganolfan Myfyrwyr.
Os gallwch chi, defnyddiwch yr Ardal Gynghori Ar-lein i gysylltu â'r Ardal Gynghori. Os na allwch gael mynediad at yr Ardal Gynghori Ar-lein, yna e-bostiwch eich Ardal Gynghori ar y Campws. Byddwn yn ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Caerdydd | [email protected] Glyntaf | [email protected]
Casnewydd | [email protected] Trefforest | [email protected]